Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

T
87
MRS. EDMUNDS.
plant nag a deimlais erioed; ac os marw sydd raid,
nid wyf yn sier i ba le yr wyf yn myned." Cawn Í
ond gwella y waith hon, y waith hon yn unig."
"Paid & mi, fel y cryfhawyf cyn yr elwyf, ac na
byddwyf mwy." Ond yn fuan ar ol hyn, cryfhaodd
fel ag i allu dywedyd ei bod yn credu nad âi byth
i uffern, ei bod wedi ei sprylio i fyned yno; nad
oedd yno neb na dim oedd hi yn garu; ond eto,
credai ei bod yn annghymwys i fyned i'r nefoedd.
Fel yr oedd ei meddwl yn cael ei nesu yu raddol
at wrthddrychau y wlad hono, daeth i feddwl
llawer am ei thad a'i mham, y rhai a gredai yn
ddiamheuol oeddynt yn preswylio tu fewn i gaerau
y Jerusalem uchod. Adroddai gyda blas, amgylch-
iadau marwolaeth ei thad, i ba rai yr oedd hi yn
dyst; ac yn yr adeg hon y mae yn debyg yr
ysgrifenodd y desgrifiad bywiog a ganlyn o'i wely
angeu:-
ADGOFION BYWYD.
GWELY ANGEU FY NHAD.
GWELAF ef yn awr. Y mae yr holl ystafell o flaen llygaid fy
meddwl, wedi ei hargraffu mewn lliwiau mor eglur nas gall
amser, nac amgylchiadau, byth ei dileu; ie, y mae teimladau
yr amser hwnw yn ail gyfodi wrth yr adgofion, nes peri i mi
fyw yr amser a aeth heibio megys yr ail waith. Mor agos yw
yr undeb rhwng gweithrediadau y corff à gweithrediadau yr
enaid! Ac mor effeithiol y bydd gwrthddrycbau allanol yn
dwyn yn mlaen yr undeb hwn! Ond i ddychwelyd at fy
mhwnc,-Mewn ystafeli cefa, allan o swn pethau y ddaear,
"y byd a'i boen," y gorweddai yr un anwyl. Yr oedd hir
nychdod wedi gwelwi ei wedd, eto, gwên dawel oedd ar ei
wyneb, yn arddangos y tawelwch a'r heddwch a fwynhai
oddifewn. Yr oedd rhuad masnach i'w glywed yn awr ac yn
y man oddi allan, eithr ni wnai hyn ond ychwanegu, trwy
gyferbyniad, y dystawrwydd oddifewn. Cadair esmwyth wrth
ochr y gwely-bwrdd bychan-cist, ar ba un y safai potelau,
gwydrau, a phethau ereill a welir yn gyffredin yn ystafell y
claf, oeddynt y pethau cyntaf a welai'r llygad. Mynych y