Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

92
COFIANT
PEN. XIII.
DARFOD A'R PETHAU A WELIR.
"Mewn trallod at bwy'r af, ar ddiwrnod tywyll du,
Mewn dyfader beth a wnaf, a'r tonau o'm dau tu;
O fyd, yn awr beth elli di? nessu at Dduw eydd dda i mi."-D.J.
Y MAR yn orchwyl tra hyfryd i olrhain perffeithiad
graddol y gwaith da ar enaid y Cristion. Cawsom
weled yr oruchwyliaeth yn dechreu yn foreu iawn-
rhyw chwech oed neu cyn hyny; yn ei chanlyn
trwy febyd ac ieuengetyd, yn ei gwneyd yn effro ac
yn ddefnyddiol yn yr adeg hon; yn ei dylyn i fynu
ac i waered, trwy brofedigaethau, gofidiau, cyfnew-
idiadau a phleserau bywyd, am yspaid o ddeugain
mlynedd: ond, dyma adeg y gorpheniad cyflawn
wedi dyfod o'r diwedd. Diamheu y medr y Gweith-
iwr mawr ddechreu, cynyddu, a gorphen y gwaith
da mewn byr amser, fel yn amgylchiad y lleidr ar y
groes; ond yn gyffredin bydd y fynedfa i'r bywyd
yn cael ei ragflaenu gan fath o addfediad graddol
ar y meddwl cyn myned i'r glyn. Felly mewn
modd arbenig y bu yn yr amgylchiad hwn. Yr
oedd yn darfod yn raddol a'r pethau a welir. Bob
amser pan y byddai y cludwr llythyrau yn curo wrth
y drws, byddai am gael gafael dioed yn yr holl
lythyrau. Ond y teimlad hwn a wanychodd, ac yn
mhen ychydig amser a ddiflanodd-clywid hi wedi
hyny yn gofyn, pan y byddai y postman yn curo, "a
Dywedai iddi dderbyn cymaint o argraffladau oddiwrth
ddarllen Taith y Pererin pan yn chwech oed, nes codi pender-
fyniad cryf ynddi i gychwyn ar bererindod; ond, yn hollol
anwybodus am natur y daith, hi a gychwynodd ryw ddiwrnod
tna phen rhyw fryn gerllaw, lle yr oedd wedi nodi allan ryw
"borth cyfyng," mewn llawn fwriad i fyned trwyddo. Caf-
wyd hi gan gyfaill yn crwydro, a dygwyd hi yn ei hol.