Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
93
oes yna lythyr oddiwrth fy mrawd neu'm chwaer?
Nid ydyw llythyrau business ddim i mi mwyach-nid
wyf am glywed dim sydd ynddynt." Ond, tra ya
gollwng ei gafael ar bethau y fuchedd hon, yr oedd
yn teimlo mwy o ddyddordeb a chryfach gafael yn
mhob peth perthynol i'r Capel, a'r achos crefyddol.
Dywedai wrth Mr. J. Parry, "y mae fy serch at
eglwys fach Upper Bangor wedi cynyddu yn rhy-
feddol er pan wyf wedi fy ngaethiwo y tro hwn; y
mae pawb yn garedig iawn i mi. Y mae acw lawer
o weddio wedi bod drosof, ac yr wyf yn gwybod
fod y gweddiau wedi eu hateb. Perwch iddynt
barhau i weddio, fel, pa un bynag a'i byw a'i marw
a wnaf, y bydd i mi ogoneddu Duw." Ac wrth
gyfaill arall y dywedai, "yr wyf yn teimlo mwy o
interest yn llwyddiant yr achos yn y Tŵr Gwyn,
nag erioed o'r blaen." "Byddai yn ofalus iawn hyd
yn nod yn ei gwendid mwyaf, am fod rhai o'r teulu
yn myned i bob gwasanaeth crefyddol; a byddai
yn awyddus ddysgwyl cael hanes y cyfarfod: "ac os
deallai fod Cyfarfod gweddi neu Society gysurus
wedi ei chael, atebai bob amser,-"I am so glad to
hear;"-"Y mae mor dda genyf glywed!"
ei
Tua chwech wythnos cyn iddi ein gadael, hi
a anfonodd y genadwri ganlynol at y gymdeithas
eglwysig; gyda chofio atynt yn garedig, perai ddy-
wedyd "ei bod yn ofni erbyn hyn fod ei chlefyd yn
un i angeu; ac er nad oedd yn dywyll iawn
meddwl, eto fod armi eisieu cael tystiolaeth fwy
cryf ei bod yn un c'r plant." Dymunai ar iddynt
weddio drosti am hyn: deallodd i'r peth gael ei
gymeryd yn garedig yn yr eglwys, yr hyn a barodd
lawer o gysur iddi; credai o hyny allan ei bod yn

  • Gall y darllenydd hyderu fod yr hyn a nodir oddiyma hyd

y diwedd, fel ei hymadroddion ar ei gwely angeu, yn gywir
hollol fel y'u llefarwyd, gan i'r ysgrifenydd, yn lle ymddiried
i'w gof, eu hysgrifenu i lawr ar y pryd.