Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/118

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

96
COFIANT
hun ac ameu fy nybenion, ac yn fynych yn cael y
cwbl allan o le; yn chwilio llawer yn fy nghalon i
edrych a gawswn afael ar rasusau y Cristion, ond
yn methu eu cael: yr wyf yn awr wedi darfod & mi
fy hun, ac yn cael y cwbl yn yr Anwylyd. Ath-
rawiaeth y cyfrifiad sydd yn fy suitio I-Crist oll
yn oll. Yr wyf yn credu nad oes un athrawiaeth
yn ddigon cref i orwedd arni wrth farw ond athraw-
iaeth y cyfrifiad 'the doctrine of substitution
Crist yn fy lle. Nid wyf yn teimlo yn gul mewn
un modd at ein brodyr o wahanol farn; ond yr wyf
yn credu eu bod oll yn rhwym o ddyfod yn Galfin-
iaid trwyadl cyn marw. Yma y mae nerth i farw:
'complete in him'-'wedi eich cyflawni ynddo ef.'
Dywedwch wrth Mr.
oddiwrthyf fi, am
M
beidio byth fyned i ddadleu ychwaneg yn erbyn
athrawiaeth y cyfrifiad. Y mae yn destun rhy
sanctaidd i gael ei drin a'i drafod dan deimladau
cynhyrfus. Fe gaiff ef ei synu yn fawr pan yr ä i
farw, pan gaiff na fydd yr un athrawiaeth arall yn
ddigon cref i'w ddal." Y mae tystiolaeth o'r natur
hon yn cynwys mwy o ddyddordeb pan yr ystyriom
ei bod hi hyd yn hyn yn coleddu y golygiadau
cyferbyniol. Yr oedd wedi darllen yn fanwl weith-
iau Jenkyn ac ereill, y rhai sydd wedi ymor-
chestu i gael allan gyfundrefn trwy yr hon y gellid
dangos gras yr efengyl yn fwy cyson & rheswm,
ac yr oedd i raddau mawr wedi mabwysiadu eu a gol-
ygiadau; ond dyma amgylchiad yn ei chyfarfod,
yn yr hwn y mae yr hyn oedd o'r blaen yn bwage
barn yn dyfod yn bwne profiad; y llong, yn lle
cario y cable ar ei bwrdd, yn crogi wrtho yn yr ys-
torm. Cawn y Dr. Gordon yn dwyn tystiolaeth
gyffelyb ar ei wely angeu. "Bob amser," meddai
y Doctor, "byddwn yn ceisio amgyffred trefn yr
Efengyl trwy reswm, ac yn cael llawer darn o honi yn
ddigon anhawdd i'w chysoni: ond gadewch i'r hwn
sydd yn mynu ei hamgyffred a'i chysoni yn drwyadl