Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/120

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

98
COFIANT
phan y caiff proffeswr ei hun bob amser yn ddi-
awydd a diymdrech am wneyd rhywbeth gyda'r
achos goreu, y mae iddo le i amheu mai nid y
winllan yw y lle mwyaf cyfaddas iddo ef, am mai
galw i weithio y mae Duw-"Dos, gweithia heddyw
yn fy ngwinllan." Y mae y teimlad hwn o awydd
gwneyd daioni fel y gwresfesurydd (thermometer);
pan y bydd yr enaid yn myned yn fwy gwresog
mewn cariad, y mae yn codi yn uwch-ie, pan y
mae cnawd a chalon yn pallu tuag at bob peth
arall, y mae yr ymlyniad wrth bethau Dduw
yn cryfhau.
Dywedai gwrthddrych y cofant
yma wrthym yn aml, mai "un yw y gwaith y ta
yma a'r tu acw." "Y mae yr eglwys fawr
trwy'r ddaear a'r nef yn un; yr unig wahaniaeth,"
meddai, "yw ei bod hi yma yn y kitchen, ac yno
yn y parlwr." Parhai hyd y diwedd i anog ereill
i weithio, yn nghyd ag i dori gwaith iddi ei hun,
os oedd yr Arglwydd yn trefnu iddi gael adferiad.
Pan ddywedodd un o'i chyfeillion ei bod yn go-
beithio y câi wella eto, "Wel," meddai, "yr wyf
fi wedi rhoddi hyny yn ei law ef-efe biau dewis;
ond os caf, yr wyf yn benderfynol i dreulio llawer
o fy amser i ymweled â'r cleifion, a'r tlodion. Yr
wyf yn cofio yn awr lawer o ddywediadau yr hen
Pal Harri ac ereill, pryd y cefais lawer o les wrth
ymddiddan & hwynt yn eu cystudd. Yr wyf yn
sier fod eu gweddiau yn cael eu hateb arnaf fi yn
awr." Fel esiampl arall o'i hysbryd gweithgar,
gallwn nodi iddi ddanfon cenadwri efo Mr. M.
D.at ieuenctyd yr eglwys: gyda son ei bod yn ofni
fod llawer o bobl ieuaine grefyddol y dyddiau hyn
yn tyfu i fyny yn segurwyr yn nhy yr Arglwydd,
ac nid yn weithwyr,"dywedwch wrthynt,'
meddai, oddi wrthyf fi, nad edifarheais I ddim am
weithio, ond i mi edifarhau llawer na buaswn wedi gweithio ychwaneg.
Nid ymfoddlonai chwaith
mewn galw ar ereill i fod yn effro ac yn weithgar,