Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/121

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
99
ond amcanai hyd yn nod yn ei hystafell, pan yr
oedd yn mron bod yn analluog i symud llaw na
throed, i fod o ryw ddefnydd yn y fan hòno. Dan-
fonodd i gyrchu rhai pobl ieuainc i ymweled a hi,
er mwyn iddi gael cyfle i'w rhybuddio; a dywedodd
mwy nag un o'r cyfryw wrth yr ysgrifenydd ar ol
hyny, nad annghofiant byth yr hyn a ddywedodd
hi wrthynt. "O fy mhlant bach," meddai wrth
nifer o ferched ieuainc oedd yn yr ystafell, "peid-
iwch ag annghofio byth yr hyn ydych yn weled
heddyw, dyma fuddugoliaeth ar angeu! cofiwch,
'does yma ddim twyll, realities i gyd yw pob peth
crefydd." Yr oedd rhyw zêl wedi ysu ei henaid
am ddyweyd gair i ryw bwrpas wrth bob un a
ddeuai i'w golwg. "Prin yr wyf yn tybied y caf
eich gweled chwi eto," meddai wrth y meddyg;
"yr wyf yn dra diolchgar i chwi am eich gofal
tyner am danaf am gymaint o amser, ac am y lles
mawr a wnaethoch i mi gynifer o weithiau; ond y
mae gair ar fy meddwl i'w ddyweyd wrthych
chwithau, cofiwch, Doctor anwyl, fod yn rhaid
cael crefydd i fedru marw yn gysurus, nid oes dim
arall a wna'r tro ar wely angeu-peidiwch a digio;
ond yr oedd arnaf eisiau dyweyd wrthych."
Teimlai awydd i wneyd y goreu o ddydd ei
chladdedigaeth, trwy amlygu ei dymuniad ar fod
i'r Parch. J. Phillips, neu y Parch. H. Roberts,
gymeryd mantais o amgylchiad mor bwysig, ar
adeg mor ddifrifol, i ddarllen a gweddio, a rhoddi
cyfarchiad byr i'r rhai fyddai wedi dod yn nghyd,
"Pwy & wyr," meddai, "na ddeil rhyw air yn
meddwl rhyw un." Fel hyn, gwelwn mai egwyddor
gref yw egwyddor cariad: nid ofn oedd yma yn
gyru at ddyledswydd; nid ofn syrthio oddiwrth
ras, nac ofn gwg Duw yn y gydwybod, yw y cym-
helliadau cryfaf i'r Cristion i wneyd ei ddyledswydd.
Na, y mae prawf o gariad Duw yn gryfach
na dim
arall i symbylu y Cristion at ei waith. Yn ystod