Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

106
COFIANT.
hithau, "So much the better, it will sooner be over."
"Nid ydych chwi," meddai yr ysgrifenydd, "yn
eyfrif marw yn ddim yn y byd!" "O! nid marw
ydyw i mi, dim ond gwaredigaeth o boen; fe gymer
fy Nhad ofal am danaf i farw, ac a ofala hefyd am
y rhai sydd ar ol." Wedi hyny, gofynodd a wnai
yr ysgrifenydd un gymwynas iddi, sef myned ar ei
liniau yn y fan hono gyda hi i erfyn na chai yr
ymrysonfa (contest) ddim bod yn faith eto. Ateb-
wyd iddi ein bod yn credu fod ganddi hi ei hun fwy
o interest yn y nefoedd na neb arall oedd yno, ond
fod amser ei gollyngdod yn rhwym o fod yn agos
bellach. "Pa mor agos?" meddai. "Cyn y boreu,
hwyrach." "Y mae yn dda genyf glywed," meddai.
Ond ni ollyngwyd hi am yn agos i ddau ddiwrnod
wedi hyn.
F
PEN. XVIII.
Y FFARWEL OLAF.
"Nid yw y ddaear fawr i gyd
Yn deilwng o fy serch a'm bryd,
Nac unrhyw wrthddrych yn y byd....
'Rwy'n cara gwrthddrych mwy;
Nid llai y sawl 'wy'n gara yw,
Na pherffaith ddyn a pherffaith Dduw;
Dyoddefodd drosof farwol friw,
O! werthfawrocaf glwy!
'Dyw tad a mam, a brawd a chwaer,
Na gwraig a phlant, na phawb a'm car,
A'm holl gyfeillion ar y ddae'r,
Ond diddim wrth dy glun;
Hebot nid ynt ond dim erioed-
O honot mae eu da yn dod,
Ni raid chwanegiad yno i fod,
Y lle baech ti dy hun."-W. W.
Y MAE cylymau calon dyn a'r byd hwn yn gryfion