Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/129

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
107
iawn, ac y mae yn rhaid fod y cariad hwnw sydd
yn medru sugno meddwl mam dyner oddiwrth ei
phlant bychain, a gwraig serchog oddiwrth ei gwr,
yn un grymus iawn. Y mae yn amlwg iawn nad
ymadroddion gweigion yw y desgrifiad grymus a
rydd yr Apostol o gariad y saint at Iesu Grist, pan
yr ydym yn canfod o flaen ein llygaid filoedd o
weithiau fel yr amgylchiad hwn, ei fod yn gryf fel
y bedd, ie, yn gryfach nag angeu ei hun. Y mae
cariad mam a chariad gwraig--pethau cryfaf a fedd
natur, yn diflanu yn ymyl hwn. Gan feddwl fod
yr ymadawiad mawr yn agos, galwodd am ei theulu
bychan oll, iddi gael ein gweled eto unwaith yn
nghyd. Ac am yr ystyriem ninau mai hon oedd
yr olwg olaf a gaem ar ein hanwylaf berthynas,
aeth yn wylo yn mhob cwr o'r ystafell; yr oedd
pawb oedd yn bresenol yn foddfa o ddagrau; ond
daliai hi ei phryd yn ddigyffro. "Yr wyf yn sicr,"
meddai, "na charodd yr un fam erioed ei phlant yn
fwy na mi, ond y mae yn beth dyeithr iawn, nes yr
wyf yn syndod i mi fy hun ac i bawb o'm cwmpas;
nid wyf yn teimlo mewn un gradd yn annghysurus
wrth eu gadael yn ngofal yr Arglwydd." Dywedai
hefyd wrth yr ysgrifenydd, "Nid wyf yn eich caru
chwi yn llai, fy anwylyd, ond yn fwy nag erioed
mae fy nghariad yn fwy pur; nid wyf am i chwi
fyned o'm golwg tra y byddwn gyda'n gilydd, ond
ni bydd ein hymadawiad yn faith-ni byddwch yn
hir cyn fy nylyn, a phan y cyfarfyddwn nesaf,
byddwn yn caru ein gilydd yn llawer mwy nag
erioed o'r blaen." Gofynodd yntau iddi, "A ydych
yn credu y cawn eto gwrdd?" "O ydwyf yn
ysgogdoes dim dadl ar y pwnge. Yr wyf fi yn
berffaith sicr o hyny. Am danaf fi, 'does genyf
ddim yn ychwaneg ar y ddaear hon-mae fy
nghyfeillion anwylaf naill ai yn y nefoedd, neu i
ddod yno ar fy of."
ddi-
Yn y prydnawn teimlai fath o wendid llesmeiriol