Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/132

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

110
COFIANT
Un o'r pethau diweddaf a ddywedodd, oedd mewn
atebiad i'r dywediad-"Y mae yn galed iawn
arnoch, Mary bach"-"Ydyw," meddai hithau,
"yn galed; ond byddai yn llawer caletach oni bae
mai entrance i'r bywyd ydyw; bydd drosodd yn
fuan, ac yna mor hyfryd fydd cael buddugoliaeth."
Gwnaeth ymdrech i siarad amryw weithiau wedi
hyn, ond yr oedd yn rhy floesg i ni fedru ei deall;
ond buom yn alluog i wneyd un gair allan, "Pray,
Pray gweddiwch, gweddiwch." Bwlch cyfyng
yw angeu, hyd yn nod i'r Cristion ei hun-tynu yr
hen babell i lawr; ond cysur mawr wedi myned
trwodd yw, na bydd raid marw eto. Felly hi a
hunodd yn dawel yn yr Iesu tua 12 o'r gloch, yr
22ain o Fawrth, 1858.
. Oddiwrth yr hyn a welsom ac a glywsom wrth
wylied oriau olaf ein chwaer ymadawedig, teimlem
gyda'r sicrwydd mwyaf-
1. Fod dwy ran mewn dyn. Tra yr oedd y
corph yn gwanbau yn raddol, ac yn ymbarotoi am
yr ymollyngiad mawr, yr oedd yr enaid yn ad-
newyddu ac yn cryfhau yn annhraethol; y serch!
y 'gyneddf fawr!-meistres y ty!-yn lle bod fel
Ilin yn mygu mewn dymuniadau gwanaidd, wedi
myned yn fflamiau o gariad, yn
"Curo pob oariadau i lawr,
Yn llyngeu enwau gwael y llawr,
Oli yn ei enw ei hun."
Y deall, yr hwn am 30 o flynyddoedd a fu yn
ymbalfalu i geisio adnabod y gwirionedd, erbyn
hyn yn lle tywyllu a marw yr un modd a'r corph o
dan ddwylaw y dinystrydd, yn ymagor i eangder