Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

viii

RHAGDRAETH .

T

arno : ac er hyny, y mae yn un o'r ystyriaethau mwyaf difrifol
all fod ; a phe caffai ein sylw arosol yn ei symlrwydd noeth,
nid fel delw yn unig i grogi arni wisg addurniadol, ond fel
gwirionedd yn meddu bywyd a nerth , byddai yn sicr o gynyrchu effeithiau daionus yn ein meddyliau. Pa beth bynag
sydd amheus, dyma un peth nas gellir ei wadu; a pha beth
bynag sydd anmherthynasol, dyma un peth sydd yn dwyn
cysylltiad agos â phawb o honom, ger bron yr hwn y mae holl.
oesoedd y byd wedi gorfod ymostwng, ac yn teimlo eu hunain yn
ei afael yn fwy diddym na dail y coed pan ddygir hwy ymaith gan
y llifeiriant. Y mae dynion erbyn hyn bron meddwl fod holl
ddeddfau natur dan eu hawdurdod, ac y gallant gymeryd
awenau y greadigaeth i'w dwylaw eu hunain; ac eto nid oes
neb o honynt wedi llwyddo i arafu rhediad amser am un fynyd,
nac i atal eu hunain rhag cael eu cario ymaith ganddo. Ymaith
i rywle: ond i ba le? dyna y gofyniad mawr. Pa le y mae
ein hen gyfeillion, y rhai fu yn cyd-deithio â ni trwy ran o'r anialwch?
Collasom rai o honynt yma, a rhai acw, ac yn
awr pa le y maent? Ni fu dynion serchocach na rhai o
honynt erioed yn rhodio y ddaear; ni fu calonau mwy didwyll
erioed yn neb o hil Adda: ac a ydynt yn awr wedi darfod bod ?
Nac ydynt: y mae rheswm ac ysgrythyr yn dweyd, Nac ydynt.
Yn awr y maent yn dechreu deall pa beth yw bywyd. Y
maent yn bod eto mewn gwlad nas gallant fyth ddymuno ei
gwell. Ond yma, gan eu cyfeillion a adawsant ar ol, nid oes
bellach ond y cof am danynt; ac y mae y cof hwnw yn cael ei
guddio o'r golwg yn raddol gan lwch y byd. Mae yr hyn a
ddarllenir am ddinasoedd mawrion , megis Ninife a Babilon,
yn cymeryd lle o hyd yn hanes pob dyn yn bersonol . Pwy all
ddweyd y nifer o ddywediadau difyr, o ymddygiadau caredig,
ac o edrychiadau serchoglawn , sydd wedi eu claddu yn ei gof?
Ond nid ydynt wedi eu difodi er eu bod wedi eu claddu ; ac
wrth gloddio ychydig i'r amser a aeth heibio, y mae rhai o
honynt yn dyfod i'r golwg bob dydd, darn o golofn yma, a
rhyw gerfiad gwych draw : ac odid nad oes gan bob dyn am
gueddfa fechan yn rhyw gongl i'w galon, lle y mae yn trysori
yr adgofion mwyaf gwerthfawr yn ofalus, gan ymweled â hwy
yn fynych , a chymdeithasu trwyddynt â rhai sydd yn awr yn
ysbrydoedd wedi eu perffeithio .

Daeth yr ystyriaethau hyn i fy meddwl gyda grym adnewyddol pan ofynwyd i mi ysgrifenu ychydig sylwadau fel Rhagdraeth i'r Cofiant sydd yn canlyn. Y mae ychwaneg o
rai blynyddoedd na'r bedwaredd ran o ganrif er pan ddaethym
yn gydnabyddus â Mrs. Edmunds, y pryd hwnw Miss Jones,
Caerfyrddin. Trefnodd Rhagluniaeth i mi dreulio blwyddyn
yr amser hwnw yn nhy Mr. Lloyd, Pentowyn, gerllaw Meudrim , yn y sir hono; ac am ysbaid wedi hyny bum yn llafurio