Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/158

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

136

COFIANT

Fel gydag Israel yn yr anial gwyw,
Amheuaeth a beunyddiol ofn yw
Nodweddiad taith credadyn tua'r nef;
Rhyw achlysurol fendith iddo ef
Yw cyflawn sicrwydd gobaith : ambell waith
Y chwery goleu Canaan ar y daith .
Ond gwyddai hithau am yr oriau per
Agorant olygfeydd uwchlaw y ser ;
Cyfeiriad dyffryn Escol — rhagfwynhad
O bren y bywyd fry, hardd gysgod tŷ ein Tad.
Y sylweddoliad o'i wynebpryd Ef

Canol- bwynt dymunoldeb nef y nef.
Ei meddwl ymollyngai ambell bryd
Ar edyn gobaith , dros ymylau 'r byd,
Ac wedi dychwel, byddai ol y daith
Yn ffrydio yn sancteiddrwydd drwy ei gwaith .

Nid' arwynebol ei duwioldeb hi,
Nid fel y gornant fechan , fâs ei lli,
A aflonyddir ar ei thrystiog hynt
Gan ymyl -rwystrau, a chan rym y gwynt :
Yr oedd y dyfnder yno ! Elai rhagddi
Yn dawel gan y dwyfol bwys oedd ynddi.
Fel afon, heibio 'i glànau awr wrth awr,

Y llifai heibio gorthrymderau'r llawr ;
O bethau tragwyddoldeb oedd mor ddofn,
Ni theimlai fawr o boen y byd na'i ofn ;

Ond beunydd a'i dymuniad am yr awr
Yr ymarllwysai i'r tawelfor mawr

O heddwch , ac o anfarwoldeb sy
Yn lâs diderfyn am yr Orsedd fry.

Ei huchelfrydedd penaf yn y byd
Oedd treulio oes ddefnyddiol ; rhoes ei bryd
O galon bur ar hyn yn foreu iawn,
Ac ni lesgäodd pan yn hwyr brydnawn.