Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/159

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS . EDMUNDS .

137

Y MEDDWL ! gwyddai am ei fawredd ef,
A'i allu i amgyffred deddfau 'r nef ;
Ei uchel freinteb i anfarwol fød,

I gyfarch tragwyddolfyd cyn ei ddod ;
Ei hawl i rodio dros derfynau pell
Tymorol fyd , i geisio bydoedd gwell,
A’i dawel gartrefolrwydd y tu draw
I gylchoedd amser,-yn y byd a ddaw !
Adwaenai ol y ddelw ddwyfol ddyd
Urdd arno eto uwch amgyffred byd ;
Y gwrid dwyfolwawr ar ei wedd a gair,
A'r sail o anfarwoldeb tàn adfail pechod bair.
A nerthu 'r Meddwl pan nad oedd ond gwan
A llaeth gwybodaeth , fu ei breintfawr ran :
Ei feithrin yn yr egwyddorion byw ,
A'r gwybodaethau o uchelaf ryw
A ymderfynant yn ngwybodaeth Ior,
Fel yn y mân afonydd yn y môr.
0 ! pwy a draetha y mwynhad yn awr
A deimlai, pan y gwelai'r Meddwl mawr

Yn dechreu agor ar ryfeddol fyd
Gwybodaeth o ddiderfyn led a hyd ;
Y llygaid pur na chauir bythoedd bellach ,
Er cau amrantau'r haul mewn nos dragwyddol mwyach.

Athrawes oedd gymhwyswyd at y gwaith

Trwy reddfol ddawn ac ymgysegriad maith.
Mor hyfryd ydoedd y ddyledswydd gun
o ddysgu eraill, wedi dysgu 'i hun !
Mae'r cofarwyddion odd ei llwyddiant hi ?
Nis gwelir hwynt ger llysoedd mawr eu bri
Nid cofgolofnau marmor ydynt hwy,
Eu sail sydd ddyfnach , a'u parhad fydd fwy.
Eneidiau wedi'u llunio yn ddi goll

I lenwi y teuluol gylchoedd oll ;
Addurno 'r cymdeithasol gylch , a dwyn
O’u hamgylch yn mhob man ryw ddynoleiddiol swyn,