Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

X

RHAGDRAETH .

ei lef yn yr heol : ond yr oedd ei ddylanwad dystaw yn llanw pob lle y dygwyddai fod ynddo, ac yn cyrhaedd at bawb o fewn cylch yr eglwys y perthynai iddi. Dirgelwch hynod ydyw hwn, y gallu mawr sydd gan rai dynion dystaw . Er hyny nid mewn dystawrwydd ynddo ei hun y mae y gallu : ond yn yr argraff fod yno egwyddor uchel a synwyr cryf yn rhywle o'r golwg. Felly am dano yntau; ni fuasai yn cael y lle oedd iddo yn meddyliau pawb a'i hadwaenent oni b'ai eu bod yn argyhoeddedig ei fod yn ddyn cyflawn, ac yn grefyddwr cywir. Yr oedd pwysau yn ei gymeriad, yr hyn nis gellir ei ddweyd am bawb sydd ar ryw gyfrifon yn ddynion mawr, Y maent, efallai, yn fawr mewn gwybodaeth , neu mewn parod rwydd i siarad: ond y maent er hyny yn ysgeifn ; ac o ganlyniad nid oes ond ychydig o argraff yn dilyn yr hyn a ddywedant. Nid yw eu mawredd, wedi'r cwbl, ond mawredd mwg, yn codi yn golofn i entrych awyr, ond yn cael ei chwalu yn fuan gan y gwynt. Pell iawn oedd efe oddiwrth fod yn debyg i hyn . Yr oedd yn ddyn gwybodus; ond yr oedd eraill yn yr un dref yn fwy gwybodus. Yr oedd yn ddyn doniol ; ac os yw yn addas son am ddawn gweddi, yr oedd efe yn meddu y ddawn hono i raddau mwy na'r cyffredin ; ond yr oedd eraill mor ddoniol ag yntau, ac yn fwy hyawdl i draethu eu syniadau ar bob achlysur. Ac eto nid oedd un dyn anghyhoedd yn cael gwrandawiad inwy parchus oddiwrth bawb ; a diammheu fod hyn yn tarddu yn benaf oddiwrth bwysau ei gymeriad.

Yr oedd efe mewn modd arbenig yn byw yn grefyddol gartref, ac yn gofalu am ddwyn ei blant i fynu yn ofn yr Arglwydd ; ac nis gellir olrhain yr achosion o ffyddlondeb a defnyddioldeb yr “ Athrawes o Ddifrif," heb gymeryd golwg ar yr addysg foreuol, a'r amgylchiadau teuluaidd , a fu yn foddion i ffurfio nodweddiad ei bywyd. Yr oedd hi yn cadw gorchymyn ei thad, ac nid ymadawodd â chyfraith ei mam ; ac o'r ffynonell hon yr oedd ei gweithgarwch a'i llwyddiant yn tarddu. Ar agwedd y teulu yn yr hwn y dygir un i fyuu, yn fwy nag ar ddim arall, y mae gweddill yr oes yn ymddibynu; oddiyma y mae da a drwg y byd i fesur mawryntarddu : a'r diwygiad mwyaf effeithiol yn mhob gwlad fyddai diwygiad teuluaidd. Yn nghanol yr holl ymdrech i sefydlu ysgolion cyhoeddus, yr hyn yw un o arwyddion mwyaf gobeithiol y dyddiau yr ydym yn byw ynddynt, dichon fod perygl rhag i ni golli golwg ar bwysfawrogrwydd yr addysg deuluaidd : ac er mor angenrheidiol yw dyfalwch i ddilyn cyfarfodydd crefyddol, ni ddylai hyn fod yn rheswm dros esgeuluso crefydd gartref. Yn y teulu y mae dysgu geirwiredd ; yn y tenlu y mae dysgu gonestrwydd ; yn y teulu y mae dysgu diwydrwydd ; yn y teulu y mae dysgu glanweithdra; yn y teulu y mae gwreiddio y bobl ieuainc mewn egwyddorion crefyddol. Y

1