Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/161

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
Yn llawn o fawredd ac o gynwys dwfn.
Pa agwedd bynag fyddo ar y MôE,
Pa ffurf, pa fesur bynag fo i'r traeth
O'i amgylch: ai y cyfyngedig lif,
Fel estynedig fraich ar fonwes werdd
Cyfandir, ai ëangder pur di làn,
Mawreddog yw ! Un elfen dros y byd.
Yr HAUL, ai yn llinellau llwyd y wawr
A ysgrifenant draw ar hyd y nos
Addewid lon y dydd un waith yn hwy,
Ai yn ysplander y cyhydedd pell,
Mawreddog ydyw drwy y daith i gyd.-
Dyn oedd gyffelyb yn ei golwg hi.
Edrychai arno yn y boreu gryd
Fel angel heb ddihuno: clywai dwrf
Elfenau anfarwoldeb oddifewn.
Ymaflai yn y syniad dirfawr, Dyn,
Dyn yn ei faboed, fel mewn cragen dios
Y clywir tyrfau Cefofor pell o'i mewn ;
Myfyriai ar ei gynholiadau ef,
A dychymygai glywed ambell bryd
Dragywyddoldeb yn ymlanw o bell!
Coronwyd cyfansoddiad pur ei Meddwl
A'r gyneddf gyfyd dyn goruwch holl Difwl
Y fuchedd farwol hon-Barddoniaeth dawel!
A genfydd weithiau ddorau byd yr angel.
Pan gwympai dyn fu ar y byd yn deyruben,
Fe ymadawodd holl angelion Eden:
Ond y barddonol yspryd ymohiriai,
Ar ol yr alltud i alltudiad elai.
Ai ar ei ol i ganol yr anialwch,
A thaßlai ambell reiddyn o ddedwyddwch-
Yn ol mewn adgof am y brid baradwys,
Yu mlaen mewn gobaith am ryw fythol orphwys.