Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/162

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto


140
COFIANT
Ai ar ei ol â'r swyn sydd yn melysu
Chwerw ddyfroedd adfyd, trwy eu tèg ymylu
A glanau o baradwys, cysgodfaoedd
Adgofiant ddyn am rywbeth fel y nefoedd.
Fe roddwyd iddi hithau'n foreu wybod
Y ffordd i droi holl iselderaa trallod
Cymylau adfyd, i'w gwelediad per
Yn nefoedd o farddoniaeth ac o Ber.
Hi wyddai am yr ymarllwysfa odiaeth
I holl deimladau dyn, a geir dros ael barddoniaeth,
Lle llifa ein gofidiau i ryw ddyfnder
O annherfynol hedd, à rhyfedd lyfader.
Rhoed iddi'r llygad pur"i weled anian,"
I weled Goleu dwyfol dros y cyfan;
Y gallu i fwynhau y greadigaeth,
Mwynhau y lloor fel lleddf arwyddlun Hiraeth;
Ymylau cysgodedig yr afonydd
Fel tawel gymydogaeth gwynfa lonydd,
Mwynhau y ser fel cyntaf oleuadau
Pell ddinas anfarwoldeb, a'i ddysclaer rag-genadau.
Mae swyn lleddfäol yn tyneru 'i chaniad,
Nes chwydda oddiar y llên fel monwes lawn o deimlad;
Barddoniaeth teimlad oedd: swn llanw maith
Dyinderau'r galon bur ar draethell iaith.
Pryd hyny y mae Meddwl yn dderchedig,
Pan yn ymdoddi í deimlad sancteiddedig.
Rhoed iddi'r llaw i gerfiaw ar y gair
Y meddwl pur, nes dwyn ei ddelw yn glaer.
Awelon Sion fywiocaent ei hawen
Nes oedd yn gysegredig i un dyben.