Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/163

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

Ni raid i'r môr wrth swn a chlod yr awel:
Y mae barddoniaeth bur yn ddofa a thawel,
Ae ni raid iddi hi wrth gyhoeddusrwydd,
Na thorf i wel'd a synu o draethell poblogeiddrwydd.
01 yr Awenau nerthol sydd yn myned
Fel engyl dros y byd, heb neb braidd yn eu gweled!

Ond daeth y lonydd awr
I roi y groes i lawr
A baich y byd:
Y nos a ofnwyd ddaeth,
Ond troi yn foreu wnaeth
Ar annherfynol draeth
Ei hetifeddiaeth ddrud.

Er ofni lawer gwaith
Tra eto ar y daith
Y glyu di hedd;
Fe ffodd ei hofnau ffwrdd,
Ei Cheidwad ddaeth i'w chwrdd
I byrth y bedd.

Yn ymchwydd yr Iorddonen llawn y gwelai
Yr Addewidion gerddant ar y tonan
Yn debyg iddo Ef a'u rhoes-brydnawn
Y trodd môr angeu'n ol rhag uched glàn yr Iawn!
Hi sylweddolai'r rhyfedd bresenoldeb
Sy'n gwneyd y bedd yn brif-ffordd anfarwoldeb.
"Af gyda thi pan elych trwy y dyfroedd,"
Ei lamp i rodio'r glyn diweddaf ydoedd.-

Oh! hyfryd meddwl am y dysglaer foreu
Yr egyr Babilon y bedd ei ddorau.
Fe dreulia'r bedd-faen cyn y rhyfedd ddydd,
Ond rhinwedd, rhinwedd yn anfarwol fydd.
ISLWYN.