Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

RHAGDRAETH .

xi

mae rhai yn tybied mai un achos o'r gwahaniaeth moesol sydd rhwng y wlad hon ag amryw o wledydd y Cyfandir ydyw , fod yr hinsawdd yn Mrydain yn gorfodi y preswylwyr i dreulio yr amser yn eu cartrefi, pani na fyddont gyda'u gorchwylion , yr hyn sydd yn peri iddynt roddi pris ar, ac amcanu at, wir gysur teuluaidd, neu fel y dywed y Saeson, comfort, yr hwn air nis gellir ei gyfieithu i ieithoedd y Cyfandir, tra y maent hwy, gan degwch yr hin , yn cael eu denu allan yn barhaus, yr hyn mewn amser sydd yn effeithio ar eu cymeriad i'w gwneyd yn bobl ansefydlog ac anfoesol. Fel hyn y mae achosion bychain mewn ymddangosiad yn cynyrchu effeithiau mawrion . Ac os yw yr Ysgotiaid, fel ymyn llawer i ni gredu, ac fel y mae yn debyg eu bod ar rai ystyriaethau, yn rhagori ar y lleill o drigolion y deyrnas hon, y mae yn anhawdd gweled pa gyfrif i'w roddi am hyny , heblaw eu parch neillduol i'r Sabboth , a'r hen arfer dda sydd yn ffynu yn eu plith o dreulio hwyr y dydd hwnw gartref, pob teulu wrtho ei hun, i ymddyddan am y pregethau, ac i holi eu gilydd yn nghatecism y Gymanfa, gan ddiweddu y cwbl trwy gyd -ddarllen rhan o air Duw , a chyd -ganu, a chyd -weddio. Hwyrach mai annoeth fyddai ceisio myned mor bell â hyn yn Nghymru ; oblegid nid mewn un dydd y mae newid arfer gwlad ; a phe diddymid y cyfarfodydd crefyddol cyhoeddus ar nos Sabbothau yn ein mysg ni, y mae lle i ofni y treulid yr oriau hyny gan luaws o'n gwrandawyr mewn dull gwaeth nag anfuddiol. Ond ar yr un pryd y mae genym achos i ystyried ai nid yw crefydd y capel i raddau gormodol yn llyncu crefydd y teulu, fel y mae y llywodraeth gyffredinol mewn rhai ymerodraethau yn traws feddiannu pob awdurdod iddi ei hun . Nid dyben llywodraeth wladol a ddylai fod i ormesu ar feddiannau a hawliau teulu oedd ; ond yn hytrach i'w hamddiffyn: ac felly y mae crefydd gyhoeddus yn achlysuro effeithiau annymunol, os yw yn rhwystro crefydd deuluaidd, yn lle ei meithrin a'i chryfhau. Y canlyniad yn y naill amgylchiad fel y llall fydd fod pob grym ac egni meddwl yn darfod, a'r bobl o'r diwedd yn myned i ddysgwyl wrth eu llywodraethwyr i wneuthur drostynt yr hyn a ddylent hwy ei wneuthur drostynt eu hunain.

A oes sail i gredu fod egwyddorion yr oruchwyliaeth batriarchaidd erioed wedi eu diddymu ? Y mae hyn yn dra ammheus : oblegyd nid yw Duw yn arfer dinystrio yr egwydd orion y mae efe ei hun wedi eu planu ; ond yn hytrach eu dwyn yn raddol trwy wahanol oruchwyliaethau i berffeith rwydd ; “ Yn gyntaf yr eginyn, ar ol hyny y dywysen, yna yr yd yn llawn yn y dywysen .” Pa fodd bynag, y mae yn sicr fod yr un awdurdod yn perthyn i rieni yn yr oes hon ag yn yr oes batriarchaidd ; ac y dylai pob penteulu fod yn frenin yn ei deulu. Nid oes gan un ymerawdwr awdurdod mor gyflawn