Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

xii

RHAGDRAETH .

ar ei ddeiliaid ag sydd gan rieni ar eu plant. Y mae pob tad a mam , hyd yn nod y rhai tlotaf a'r rhai mwyaf anwybodus, yn frenin a brenines yn eu teulu trwy hawl ddwyfol. Ond i'r dyben i lenwi y swydd hon yn iawn, y mae yn angenrheidiol i bob penteulu fod hefyd yn brophwyd. Nid yw hyn yn cynwys mai trwy ddysgu yn unig y mae iddo lywodraethu; oblegid y mae y plant i ufuddhau am fod y tad neu у fam yn gorchymyn, er iddynt fod ar y pryd yn analluog i weled y rheswm am hyny. Ond y mae o'r pwys mwyaf i'r rhieni gofio fod y llywodraeth hon wediei hymddiried iddynt er mwyn lles y plant, ac er mwyn eu dwyn i fynu i fod yn lles i eraill. Ond nid hyn ychwaith yw y cwbl ; oblegid y mae Un anfeidrol uwch na'r tad a'r fam yn bod, yr hwn sydd yn gofyn teyrnged ſeunyddiol o addoliad oddiwrthynt : ac am hyny dylai allor fod yn mhob teulu ; ac y mae y penteulu i fod yn offeiriad i gyflwyno diolchgarwch a deisyfiadau i Dduw ar ran y teulu.

Y mae rhai cannoedd o deuluoedd yn ateb i'r desgrifiad hwn wedi bod, ac yn bod y dyddiau hyn, yn Nghymru : ac un o honynt oedd y teulu yr ydym yn awr yn son am dono . Yr oedd y tad a'r fam o gyffelyb feddwl, yn ymdrechgar i feithrin eu plant yn addysg ac athrawiaeth yr Arglwydd ; a gellir dweyd amdanynt, fel y dywedir am Zacharias ac Elisabeth, “ Yr oeddynt ill dau yn gyfiawn ger bron Duw, yn rhodio yn holl orcnymynion a deddfau yr Arglwydd, yn ddiargyhoedd .” Yr oedd yn hawdd gweled mai crefydd oedd prif bwnc eu bywyd . Yr oeddynt, fel y byddai fy nghyfaill doniol a duwiol, y diweddar Lewis Jones, yn mynych anog aelodau eglwysig, yn byw i grefydda, ac nid yn crefydda wrth fyw . Ond nid oeddynt yn cymeryd trafferth i ddangos eu crefyddolrwydd, yr hyn sydd yn fwy adgas na dim ; oblegid y mae yn fwy hyfryd cymdeithasu â phublicanod a phechaduriaid nag â'r Phariseaid . Nid oedd neb yn cael lle i ddywedyd yn ei feddwl wrth ymddyddan â hwynt, “ Y mae y rhai hyn yn awr yn rhagrithio ; y maent yn dangos eu hunain y peth nid ydynt; y mae eu proffes yn anghyson â'u gweithredoedd.” Nid rhyfedd, gan hyny, fod ganddynt ddylanwad mawr yn y teulu : oblegid y mae plant yn alluog, a hyny yn foreuach nag y meddylid, i barchu cysondeb a diragrithrwydd yn mywyd eu rhieni ; ac o'r ochr arall, nid oes dim yn dirymu llywodraeth deuluaidd yn fwy na'r cyfryw anghysondeb yn y penteulu ag a baro i'r plant feddwl ei fod yn Pharisead diegwyddor. Y mae parch i rieni yn flodeuyn o natur mor anorchfygol yn meddyliau eu plant, fel y gall fyw mewn llawer math o hinsawdd : ond ymae un hinsawdd yn ei ladd , a hwnw ydyw Phariseaeth. Gall fyw a thyfu yn iachus ac yn gryf er fod y rhieni yn dlodion, neu yn fethiantus, ac er iddynt fod yn dra diffygiol mewn gwybodaeth a synwyr: ond y mae