Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/20

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

xiv

RHAGDRAETH .

gyrhaedd, oddieithr · trwy lafur : ac felly daeth hithau yn deilwng o gael ei rhestru yn yr un dosbarth trwy ddarllen y llyfrau goreu, a myfyrio arnynt ; ac uwchlaw'r cwbl , trwy gymdeithasu â Duw yn ei Air. Yr oedd ganddi feddwl

penderfynoli fyned ymlaen trwy rwystrau, yr hyn a'i gallu ogodd i ddefnyddio pob cyfleusdra i ymofyn am wybodaeth , a'r hyn hefyd a'i cadwodd rhag ymollwng i lwfrdra gormodol pan ddaeth cyfnewidiadau a siomedigaethau i'w chyfarfod. Yn ngwyneb troion digon adfydus, dangosodd ei bod wedi cael

allan y gelfyddyd nefol i orchfygu amgylchiadau, yn lle cymeryd ei gorchfygu ganddynt. Ond gan fod ei hanes i'w gael yn gyflawn yn ei Chofiant,afreidiol fyddai gwneuthur

crybwylliad pellach am dani yn y lle hwn. Ei gweithredoedd fel y dangosir hwy yn y tudalenau canlynol a ddangosant pa fath un ydoedd, yn well nag unrhyw eiriau a allaf fi eu defn yddio : a gobeithiaf y bydd darllen am danynt yn foddion i godi awydd mewn llawer o ferched Cymru am fod yn debyg iddi. Efallai, gan hyny, mai y peth goreu a ellid ei wneuthur yma fyddai cymeryd yr achlysur presennol i gynys ychydig sylwadau cyffredinol ar rai o'r ffyrdd y dichon i ferched

ieuainc fod yn ddefnyddiol fel hithau, ynghyd a'r addysg fwyaf angenrheidiol tuag at eu parotoi. Pa beth yw yr achos fod cyn lleied nifer o ferched Cymru yn ymdrechu i gymhwyso eu hunain , fel y gwnaeth Mrs. Edmunds, i fod yn Athrawesau yn yr Ysgolion Brytanaidd ? Ac nid yn yr Ysgolion Brytanaidd yn unig y gallent fod yn wasanaethgar ; ond hefyd fel Athrawesau teuluaidd, naill ai trwy gael lle mewn teuluoedd cyfrifol i addysgu y plant

gartref, neu dderbyn plant i'w teuluoedd en hunain. Pa le y mae'r bai, na fyddai hyn yn fwy cyffredin ? Nid ar ferched Cymru ; oblegid pe gwelent ryw sail i gredu y byddai eu

gwasanaeth yn dderbyniol, mae yn ddiau na fyddent yn ol o ateb i'r alwad : ond tra na fyddo neb yn galw , mae yn anhawdd iddynt hwythau ateb. Ond pa beth yw yr achos o hyn eto ? Paham na fyddai lle iddynt, a galwad arnynt, i wneuthur eu hunain yn fwy defnyddiol fel Athrawesau ? Y mae yn rhaid dweyd y gwir, neu beidio dweyd dim : a'r gwir ydyw , fod hyn yn tarddu i fesur helaeth o deimlad gwasaidd y Cymry. Yr ydym wedi myned i gredu nad oes dim yn rhinweddol nac yn glodfawr os na fydd wedi dyfod o ganol Lloegr : pan mewn gwirionedd nad oes dim yn ein gwneyd yn is na'r Saeson, oddieithr ein gwaith ni ein hunain yn credu ein bod yn is. Sonir llawer am yr angenrheidrwydd o ddysgu Saesnegda, ac am bwysfawrogrwydd yr acen Seisnigaidd : ond o bawb sydd yn ceisio parablu Saesneg, nid oes neb yn siarad yn fwy angrammadegol, nac yn acenu yn fwy gwrthun, na'r bobl gyffredin ynLloegr; a dywedir mai y rhai mwyaf anobeithiol