Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

RHAGDRAETH .

o honynt oll yw y rhai sydd wedi eu geni a'u magu yn Llun dain. Pan fyddwn ni, y Cymry yn cyfarfod ag ambell Sais haner -ddysgedig o un o drefi Lloegr, byddwn yn teimlo fod ein geirian yn dyfod allan yn hynod Gymreigaidd mewn cym hariaeth i'r dull main a masw y bydd efe yn eu seinio; ond pan gawn gyfle i wrandaw ar y dynion uwchaf yn senedd

Brydain, byddwn yn cael nad oes ond ychydig iawn o wahan iaeth yn y pwnc hwn rhyngddynt hwy a ninau. Y mae meibion

a merched wedi eu dwyn i fynu mewn ysgolion da o’u mebyd yn siarad yn lled gyffelyb i'w gilydd yn Lloegr a Chymru ; ond y mae gwahaniaeth hanfodol rhyngddynt a'r Saeson annysgedig, neu haner -ddysgedig. Ymaith gan hyny a'r hen dyb ffol am y fantais o anfon ein plant i Loegr, neu o gael

Athrawon ac Athrawesau o Loegr i'w dysgu yn Nghymru. Ond achos neillduol o'r diffyg cefnogaeth i Athrawesau yw golwg ry gyfyng ar addysg y rhyw fenywaidd. Y mae yn angenrheidiol i ferched yn gystal a meibion wybod rhywbeth heblaw darllen ac ysgrifenu : a dylai fod darpariaeth yn mhob ysgol a fwriedir er lles y bobl i roddi addysg i'r merched yn ngorchwylion cyffredin y teulu . Pe cedwid y dyben hwn mewn golwg, byddai galwad am Athrawes yn mhob un o'r

Ysgolion Brytanaidd. Y mae y cynllun yn cynwys o angen rheidrwydd fod yr Athrawes ei hun yn fedrus mewn gwniad waith , mewn coginiaeth , ac yn mhob cangen arall o drefnidiaeth teuluaidd ; ac hefyd fod y plant yn cael aros dan ei gofal am fwy o amser nag y maent yn gyffredin. Er hyny y mae yn amheus a ydyw hyn yn cyfarfod â holl angen y wlad ; ac y mae lle i feddwl, pa mor effeithiol bynag y gwneir yr Ysgolion Brytanaidd, y bydd ysgolion o natur uwch yn angenrheidiol. Yn ol y drefn bresennol, y mae ffermwyr a masnachwyr cyfrifol yn gorfod anfon y merched i boarding schools drudfawr, yr hyn sydd dda yn ei le priodol, sef i'r rhai sydd a modd ganddynt i fyw yn foneddigesau rhagllaw ; ond yn effeithio yn ddrwg ar eraill yn fynych, gan ei fod yn eu hanaddasu i'r

sefyllfa y mae Rhagluniaeth wedi eu gosod ynddi. Yn awr, eu bwriadu yn benodol i ferched ffermwyr a masnachwyr, i'w oni fyddai yn ddymunol pe codid ysgolion yn Nghymru wedi

haddysgu yn y pethau fydd yn fuddiol iddynt fel merched ffermwyr, ac fel merched masnachwyr ? Cynygir y gofyn iad hwn i ystyriaeth ; ond ni ddysgwylir iddo ddwyn ffrwyth am rai blynyddoedd, gan fod y Cymru mor hynod bwyllog yn eu symudiadau gyda phob achos, oddieithr iddo fod yn destyn cymhwys i greu cyrhyrfiad mewn cyfarfodydd cyhoeddus. Ond y mae yr amser yn sicr o ddyfod pan fydd merched ffermwyr a masnachwyr yn rhy gall i wastraffu eu hamser i dddysgu yr hyn ni wna iddynt ddim lles, pan ddeuant

i deimlo mai y pethau mwyaf cyffredin yw y pethau mwyaf