COFIANT, &c. Y
RHAN GYNTAF .
PEN . I.
SYLWADAU ARWEINIOL .
“ Beth bynag a ymafael dy law ynddo i'w wneuthur, gwna a'th holl egni.” - SOLOMON.
Pwnc mawr tuag at wneyd bywyd yn ddefnyddiol
ydyw. ei ddechreu gydag amcan penodol. Y mae cael un dyben felly i gyrchu ato yn nghanol g'wa hanol bethau fyddo yn tynu y sylw, ac yn dwyn y
meddwl ar eu hol, yn tueddui roddi cryfder acegni mwy yn y bywyd hwnw nag a fyddai yn bosiblpe ei rhenid yn ei amcan .
Nid yn anfynych y ceir dynion yn dechreu yn
dda ar yrfa bywyd, ac yn ymosod gyda llawer o egni ar ryw orchwyl, ond erbyn cyfarfod âg ychydig o rwystrau, neu fyned dan ddylanwad teimlad mwy ymroddgar at ryw orchwyl arall, yn rhoddi y cyntaf i fyny, ac felly, o ddiffyg ymroddiad parhaus gydag un peth, yn syrthio yn fyr o gyraedd enwogrwydd mewn dim. Y mae yn wir, nad ellir dan bob amgylchiadau
deimlo yr un awydd at, ne ymlyniad wrth , yr amcan meddwl ymroddgar yn a ddewisir ; eto, y ma tueddu o hyd at yr un cyflwr gwelir y morwr dan