3
MRS . EDMUNDS .
raddau gan
hanesion annghywir am ansawdd dysg
eidiaeth yn Nghymru godi sylwat addysg y bobl; a thrwy ymdrechion diflino cyfeillion addysg yn y dywysogaeth, y mae yn anhawdd erbyn hyn cael pentref na chymydogaeth lle nad oes Ysgolion da a
gwerthfawr wedi eu sefydlu. Y mae " llawer yn cynniweirio, a gwybodaeth yn amlhau .”
PEN .
II .
EI HANES BOREUOL. “ I thank the goodness and the grace Which on my birth have smiled ; And made me in this Christian land
A happy English child." — WATTS .
Yn nhref Caerfyrddin , yn y
flwyddyn 1812,
priododd William Jones,mab i amaethwr o bentref Llangendeirn, yr hwn oedd hefyd ynflaenor cymer
adwy gyda y Trefnyddion Calfinaidd yno, âgº unig ferch ioriadurwr cyfrifol o'r dref uchod, yr hwn oedd wedi bod yn aelod crefyddol gydag enwad y Bedyddwyr, ond wedi hyny a ymunodd ag achos y
Trefnyddion yn y dref. Ganwyd iddynt yn y flwyddyn ganlynol, sef ar у 25ain o Ebrili, ferch å alwyd Mary, yn ol enw ei mam . Am fod y rhieni eill dau yn grefyddol, ac yn teimlo yn ddwys y rhwymedigaethau newyddion oedd arnynt, cafodd fanteision helaeth i ddyfod i
adnabyddiaeth o werth crefydd, mewn cynghorion yn gystal âg esiampl. Yr oedd yr addysg deulu aidda gafodd ar yr aelwyd gartref, yn neillduol ar y Sabbothau, wedi gadael argraff ddwys ar ei meddwl ; a gwelid yreffaith ddaionus o hyny yn y sobrwydd a'r difrifoldeb a ddangosai pan ddarllenid