4
COFIANT
rhanau o'r Beibl, ac wrth blygu yn feunyddiol o gylch yr allor deuluaidd. Un o'r pethau mwyaf dymunol ganddi oedd gwrando yr ymddyddanion crefyddola glywai pan y câi y fraint o aros yn nghymdeithas y gweinidogion a alwentyn achlysurol gyda ei rhieni; tra y byddai y lleill o'r plant yn ymddifyru mewn chwareu, eisteddai hi fel Măir gynt i wrando geiriau Duw , yrydoedd ei dirnadaeth
mor gyflym a threiddgar fel yr ymddifyrai mewn oedran yn eu hystyried yn faich . Teimlir yn fynych hyd yn nod gan rieni crefyddol
cyfeillachau a gorchwylion y byddai ereill o'r un
anhawsder mawr i nesu at, ac ymddyddan yn gyf
rinachol â'u plant am bethau mawrion crefydd ; y mae hyn yn codi naill ai oddiar fawredd a phwys y gwirioneddau eu hunain, neu oddiar ofn nad ydyw у meddwl plentynaidd yn alluog i'w dirnad. Efallai bod medrusrwydd mawr yn angenrheidiol at gyfranu
addysg i blant, acnad oes ond ychydig ynmeddu arno .
Ond
paun bynag am hyny, y mae y diffyg o
hyn yn rhy gyffredin mewn teuluoedd yn Nghymru, ac yn achosi bod llawer plentyn gobeithiol dan argyhoeddiad yn aros yn hir yn esgoreddfa y plant. Hysbysai gwrthddrych y cofiant hwn ei bod yn teimlo rhwymau dirfawr i gydnabod yr Arglwydd am y gofala'r pryder a amlygid gan ei rliieni yn ei hachos, a'r cyfleusderau mynych a gymerent i ymddyddan å hi am y pethau a berthynent i'w heddwch. Yr oedd argraffiadau dwysion wedi eu
gadael ar ei meddwl am amser cyn eu hamlygu mewn proffes gyhoeddus; a chadwai gofnodiad cyson o'i theimladau crefyddol am tua dwy flynedd cyn
ei derbyn yn gyflawn aelod, a chael y rhagorfraint o wneyd côf am angeu ei Cheidwad .
Bu cyfarfodydd neillduol a gynelid yn wythnosol yn y capel, yn Nghaerfyrddin , i'r dyben o addysgu had yr eglwys, yn foddion arbenig i gynyddu ei gwybodaeth a'i phrofiad o wirioneddau y Beibl :