MRS . EDMUNDS .
nid anmhriodol, efallai, fyddai coffhau yn y lle hwn am rai o'r athrawon duwiol a ffyddlawn a gymer
asant arnynt arolygiaeth y gwaith hwn o “borthi y mynod gerllaw pebyll y bugeiliaid ."
Disgynodd y gorchwyl pwysig yn y lle cyntafar yr hen weinidog doeth a ffyddlawn, y diweddar Barchedig Thomas Jones,awdwresboniadau gwerth fawr ar ranau o'r Ysgrythyrau, ac adnabyddus felly trwy y dywysogaeth ; yr hwn a fu yn llafurio am flynyddaŭ i Þorthi y rhai bychain hyn â gwybodaeth ac à deall, gan eu dysgu i wybod yr Ysgrythyr lân -eu holi mewn pynciau athrawiaethol - a'u cyfar
wyddo i roi gwerth mawr ar ordinhadau crefydd, a bod yn ddyfal yn yr ymarferiad â hwynt, gan ymgais am brofiad o bethau ysbrydol trwy yr ym. arferiad â moddiongras. Cofus iawn oedd ganddi trwy ei hoes ei ofyniadau cynwysfawr ar y deg gorchymyn a gweddi yr Arglwydd, yn nghyda'i ddeisyfiadau taerion ar ran gwrthddrychau ei ofal; a phan y lluddiwyd iddo gan afiechyd fyned i'r cyfarfod , y fath oedd ei serch at y plant fel yr anfonodd am danynt i ddyfod i ymweled ag ef
i'w dŷ yn ei glefyd diweddaf, yr hyn a adawodd argraff ddwfn ar feddyliau y rhai a gafodd y fraint o'i gyfarfod .
Wedi colli y duwinydd enwog hwn, syrthiodd gofal yr ieuengctyd ar wr arall oysbryd addfwyn a chalon gynes, y diweddar BarchedigThomasEvans, yr hwn a arweiniodd y praidd bychan hwn am
dymhor maith : ymaflodd yn y gorchwylyn galonog ; llywyddai y cyfarfodydd yn ddoeth a diwyd, á chyfranai addysg grefyddol yn fanwl, ac mewn mwyneidd-dradoethineb, yr hyn a enillodd galonau y plant i'w garu yn gynhes. Wele, yn canlyn, İythyr a dderbyniodd y drancedig oddiwrtho pan wedi ei symud gan amgylchiadau yn rhagluniaeth y Brenin mawr i ardalarall, ychydig o ffordd o Gaerfyrddin.
5