Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/29

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

7

MRS . EDMUNDS .

dyfod i fedru darllen pan yn bur ieuanc ; medrai ddarllen y Testament Newydd cyn bod yn bedair mlwydd oed, eithr nid oedd hyny ond agoriad drws i lafur newydd ; chwiliai yn fanwl i ystyr yr adnodau a ddarllenai; holai ei hathrawon yn ddiflino

yn eu cylch, ac ni orphwysai nes cael boddlonrwydd i'w meddwltrwy esboniad a fyddai yn ymddangos iddi yn eglurhad hollol ar y pwnc.

Yr oedd ei synwyr yn gyflym a threiddgar, ei

chof yn gryf ac yn dal yn dda yr hyn a gyflwynid iddo, a thrwy ymarferiad dyfal o hono, daeth mor fedrus i gofio, fel mai pur anfynych y methai a rhoddi yr awdurdod benodol am bob syniad ac eglurhad

oedd ganddi. Hynod oedd ei chynefindra ag adnodau y Beibl ; yr oedd concordance lled gywir a manwl ganddi yn

ei chof, ac yn barod at wasanaeth pawb aofynai" y benod a'r adnod ar unrhyw achlysur. Mynych y

ceisid ganddidroi at ffaití, neu hanes ysgrythyrol, ac anfynych, os byth, y methai a'u cael ar unwaith.

Erbyn iddi gyrhaedd oedran priodol, rhoddwyd hi yn athrawes arddosbarth o blant bychain, y rhai a fuont yn wrthddrychau ei gofal pryderus a ffydd lawn; a'r cyfryw oedd ei hymlyniad wrth y gwaith, fel mai anhawdd iawn oedd ei hatal hyd yn nod gan afiechyd rhag myned atynt. Gweddïai hefyd yn

daer drostynt, ac yr oedd yn amlwg na bu ei llafur gyda hwynt yn ofer. Pan fu farw ei thad, dewiswyd hi yn unfrydol gan y dosbarth fu dan ei ofal i fod

yn athrawes

arnynt. Yr oedd yn gynwysedig o ferched wedi cyrhaedd cyflawn oedran a synwyr, ac er nad oedd hi ond ieuanc mewn cymhariaeth, syrthiodd serch a meddwl pawb arni felun cymhwys i'w dysgu. Yn agos i dref Caerfyrddin, mewn cymydogaeth

lled dlawd, ond pur boblog, yr oedd ei thad, gydag ychydig o grefyddwyr ereill,wedillwyddo i gasglu yn nghyd nifer luosog o blant a fyddent yn arferol o