Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

10

COFIANT

yn dda genyf eu cael yn fwy mynych ; y mae yn hyfryd gengf eich bod yn gallu fy nghofio I weithiau yn inhlith cynifer o gyfeillion . Y mae ein Hysgol Sabbothol yn myned rhagddi fel arferol,

a dymuna yr athrawon eu cofio atoch yn benodol. Yr eiddoch, &c., M. A. Jones,"

PEN . III .

Ei PHROFIAD CREFYDDOL, &c.

( Allan o'i Dyddlyfr.)

“ Yr ydwyf yn ymddyddan â'm calon : fy ysbryd sydd yn chwilio yn ddyfal. Hyn a ysgrifenir i'r genedlaeth a ddel.” SALMAU .

Y MAE cadw cofnodau dyddiol o ansawdd gre

fyddol y meddwl yn hen arferiad gan lawer o'r dynion mwyaf duwiolfrydig, mewn oesoedd hen a diweddar; ond yr hyn sydd yn gwneyd y cofnodau hyn yn fwy hynod na chyffredinyw, eu bod wedi eu

hysgrifenu gan eneth ieuanc dwy ar bymtheg oed, a hyny am gryn amser cyn gwneyd proffes gyhoeddus o'i hymlyniad wrth grefydd; ac, yn ol pob tebygol rwydd, ar yr adeg y bu yn myned drwodd o farwol aeth i fywyd. Dichon fod yr arferiad yn foddion i gadw rheolaeth ar yr ysbryd, i ddwyn y galon dan arholiad, a chyfeirio yr edifeiriol at allu dwyfol am ymwared oddiwrth lygredigaeth y meddwl, ac felly, yn debyg o effeithio yn ddaionus ar yr ymarweddiad ; a gall fod ei gyhoeddi yn foddion i gynyrchu profiad ysbrydol mewn ereill. Gyda yr amcan hwnw yr ydys wedi anturio ar ddetholiad o'r dyddlyfr am ran o'r flwyddyn 1831-32.

Ebrill 11. “Meddyliais yn fynych am ysgrifenu dydd -lyfr; ac mor fynych wed'yn, ofnais mai balch der yn unig oedd ynfynghymhell. Pa fodd bynag, 1