Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS . EDMUNDS .

il

yr wyf wedi dechreu, ac yr wyf yn gobeithio trwy ras Duw, y caf fy nghynorthwyo i ymgadw yn gyson yn y cyfryw agwedd o ran fy meddwl, fel nad rhaid i mi ysgoi y ddyledswydd ;canys felly yr ystyriaf hi .

Nis gallaf adael i dymhor mor ddifrifol a hwn fyned heibio, heb ei arfer i'r dyben goreu. Anwyl Miss S. ! * y mae wedimyned erbyn hyn i ymuno a'i chwaer yn y nefoedd ! Y maent wedi ein gadael am byth ! nyni a awn atynt hwy, ond ni ddychwel ant hwy atom ni. O ! am fod mor barod i'r nef ag yr oeddent hwy ! Par i mi, O Arglwydd, fyw yma er dy glod; arwain fi a'th gyngor, ac wedi hyny cymer fi i ogoniant. Amen ac Amen. Ebrill 14. Wrth glywed beunydd am rwygiadau

angeu , yr wyfyn cael fy nghymell gyda'rbardd Saesonaeg i weddïo : “ Midst changing scenes and dying friends, Be Thou my all in all.”

Fe ddaw fy nhro inau , yr wyf yn nesu nes nes at

fydyr ysbrydoedd, lle y byddaf ynanfarwol. Wrth feddwl am hyny, yr wyf yn dychrynu rhagof fy

hun, ac yn fy ngholli fy hun yn hollol yn y rhagol

ygiad. Nid yw y byd hwn ond mynedfa iunarall; nid yw fynghorff ond ynunig yn breswylfod i'r enaid. Pan dderfydd fy amser yma, caf roi heibio y tý o glai, ac ehed fy ysbryd gerbron Duw ei wneuthurwr. Mor briodol y dywed Young : “ How poor ! how rich ! how abject! how august! How complicate! how wonderful is man ;

How passing wonder He who made him so." ( Mor dlawd, cyfoethog, isel , ac mor fawr, Mor ddyrus, mor ryfeddol ydyw dyn ! Mwy na rhyfeddol Ef a'i gwnaeth y fath .)

    • Gweler y llinellau Saesonaeg, tudal. 8.