Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

12 COFIANT - Ebrill 17. Y mae amser wedi'm dwyn i derfyn un diwrnod drachefn, ac ychydig yn ychwanego ddyddiau a'm dygant at derfyn fy einioes yn y byd hwn, ond

Tu hwnt i derfyn amser, to draw i angau du,

Mae gwlad nad ydyw bywyd yn anadl frau i mi.

Erbyn y tragwyddoldeb hwn, y mae, yn ddiau, yn ddyledswydd arnaf ymbarotoi; ond 0 Arglwydd, mor lleied o'm hamser wyf yn dreulio yn y ddar- pariaeth yma; wrth fy ymddygiadau gellid meddwl fod y byd hwn i barhau byth. Bydded 'th lan Ysbryd fy argyhoeddi. O mor oer ydyw fy ngweddïau, y maent yn ychwanegu swm fy meiau! Edrych i lawr o'r nefoedd arnaf, a dysg i mi weddio o'r galon, "O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur."

Ebrill 23. Wyf wedi bod oddi cartref trwy yr wythnos ddiweddaf, ac heb gael cyfle i ysgrifenu dros yr holl amser; yn awr, wedi dychwelyd adref, hyderaf y caf hamdden i ymddidoli o ran fy meddwl, i gau y byd allan, a galw fy ysbryd adref; yr wyf yn teimlo fod hyn yn tueddu i ddwyn fy mryd yn fwy ar bethau ysbrydol a dwyfol, o leiaf, mi obeithiaf felly. Yr wyf erbyn hyn ar gychwyn fy neunaw mlwydd, ac y mae yn alarus genyf feddwl gynifer o'm blynyddau wyf wedi eu gwastraffu. 0! am fyw y gweddill, os caf hefyd i'w ogoniant Ef a roes i mi iechyd a phob cysur a fwynhaf. Yr wyf yn ofni yn fynych rhag i mi dwyllo fy hun, ond meddyliaf y gallaf ddywedyd am grefydd, "Ei ffyrdd hi sydd ffyrdd hyfrydwch, a'i holl lwybrau hi ydynt heddwch."

Sabboth, y 24ain. Yr wyf yn diolch i Dduw am Sabboth yn ychwaneg, un dydd o orphwysfa i'r enaid, un cyfleustra adnewyddol i wrando y gair sydd yn abl' i'm gwneuthur yn ddoeth i iachawdwr- iaeth. Yr wyf heddyw wedi clywed am erchylldra