Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS. 13 fy mhechodau: rho fod dy Ysbryd yn agoryd fy llygaid i'w canfod yn eu goleuni priodol. Clywais hefyd am un "a fedr fy nghadw yn ddigwymp, a'm gosod ger bron ei ogoniant Ef yn ddifeius mewn gorfoledd." O Arglwydd, caer fi ynddo Ef, heb fy nghyfiawnder fy hun, ond wedi fy ngwisgo yn mantell y cyfiawnder a weithiwyd gan fy Ngwar- edwr ei hun.

Ebrill 25,-

"Fy enaid, cyfod gyda 'r haul,

Yn ffordd dyledswydd rhêd heb ffael;

Ymysgwyd o bob syrthni sûl,

A'th aberth boreu 'n brydlawn tål."

Y mae genyf ddyledswydd arbenig i'w thalu y boreu hwn i'r Bod mawr a'm cadwodd, ac a'm hamddiffynodd o'm genedigaeth hyd yn hyn, ac sydd, am ddeunaw mlynedd, wedi cyd-ddwyn a'm pechodau a'm hanwireddau. O Arglwydd! yr wyf yn diolch i ti nad ydwyf yn uffern, yn lle bod yn ngwlad trugaredd, lle y caf ofyn am faddeuant. 0! dryllia fy nghalon gareg fel y teimlwyf fwy o gariad atat, ac at dy air; ac ysgrifener fy adduned. hon yn y nef. Yr wyf yn dyfod atat trwy haedd- iant dy anwyl Fab, i fod yn eiddo i ti byth; ac na Ad i mi yn dragywydd dy anghofio, O Arglwydd!

Ebrill 30. Mor felus ydyw ymddidoli oddiwrth derfysg a dadwrdd y dref; y pethau hyny sydd yn cyfansoddi dedwyddwch llawer un, ond ni ddymun- wn i fod o'u nifer. O! mor wag yw holl bleserau y byd; yr ydym yn eu herlyn, ond heb byth eu goddiweddyd. Pan y tybiom am foment eu bod yn ein dwylaw, y mynyd nesaf yr ydym wedi eu colli, neu yn eu cael yn gysgodau disylwedd. Nid yw doethineb y byd hwn, ond ynfydrwydd mewn gwirionedd; pe bâi genym holl bleserau a rhialtwch y byd yn ein meddiant pan y deuwn i farw, ni fyddent yn ddim i ni; ie, mwy na hyny, byddent Jig Sized by Google