Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/37

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
15
ac sydd yn eu dal o hyd. Pe byddai iddo dynu
yn ol ei law gynaliol, syrthiai y greadigaeth ëang i
ddiddymdra fel ar y dechreu. O! na fydded i ni
golli golwg ar ei ddaioni tuag atom mewn pethau
tymhorol, ond uwchlaw y cwbl, bydded i ni ym-
drechu ag ef am fendith ysbrydol a'n gwna yn
ddedwydd pan droir yr haul yn dywyllwch, a'r
Ileuad yn waed, a'r ser ni roddant eu llewyrch.
Pan ddel y diwrnod mawr ac ofnadwy hwnw, O
am fodd i lefain, "Dacw y Duw y gobeithiasom
ynddo, efe a'n ceidw."
Mai 11. O Arglwydd! nis gwn pa beth i'w
ddywedyd ger bron dy orseddfainc; y mae yn bosibl
i mi ofyn rhyw beth na ddylwn, ond hyn a wn,
y mae arnaf eisiau calon i'th garu yn fwy nag a wnes
erioed. 'Rwy'n ofni nad wyf wedi dy garu uwch-
law pawb a phobpeth arall. "O cherwch fi," medd
Crist," cedwch fy ngorchymynion; ac o chár neb fi,
efe a geidw fy ngair i." 0! am galon i'th garu yn
iawn; yr ydwyt oll yn hawddgar; ond y mae rhyw
beth yn fy atal i'th weled felly. O! rhwyga y llen
sydd yn aros ar fy nghalon wrth ddarllen dy air;
par fod fy myfyrdod ynddo ddydd a nos, a bydded
i'th Ysbryd Santaidd fy nysgu a'm cyfarwyddo yn
y ddoethineb sydd oddi uchod, a'm gwneuthur yn
ddoeth i iachawdwriaeth.
Mai 14,-
"The Christian on his rock
Sailes at the world's alarmS;
He leans upon his Saviour's breast,
And rests upon his arms.
Unruffled, he surveys
The world's perplexing maze;
He lifts his thoughts above the skies,
And fixes there his gaze,"
01 na fedrwn gadw fy meddyliau yn rhydd oddi
wrth gynhyrfiadau y byd; na fedrwn eu cadw yn