Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/38

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

18
COFIANT
gyson ar y pethau sydd uchod, ond y mae fy ym-
ofyniadau yn barhaus yn nghylch y byd hwn, pa beth
a fwytaf? pa beth a yfaf? ac & pha beth yr ym-
ddilladaf? Arglwydd, dysg i mi lafurio, nid am y
bwyd a dderfydd, eithr am y bwyd a bery i fywyd
tragwyddol. Cuddier fi yn mantell cyfiawnder dy
Fab, fel nad ymddangoso gwarth fy noethder.
"A rhag ar f" enaid gwan
Gael cysgod bai yn bod,
Cymeraf wisg fy Ngheidwad, gao'
Fy nghuddio o'm pen i'm troed."
Mai 18.
aeth A. R.
Yr wyf newydd glywed am farwol-
Yr oedd wedi bod ar drancedigaeth
er's dyddiau, ond neithiwr hi aeth yn breswylydd
tragwyddolfyd; collir aml ochenaid ar ei hol, a
hyny yw y cwbl a allwn wneyd; ond, pa le y mae
yn awr? Y mae wedi dechreu byw byth mewn un
o ddau gyflwr mewn tragywyddol ddedwyddwch
neu wae, tra yr wyf fi yn ysgrifenu y geiriau hyn.
O Arglwydd! bydded i minau gymeryd rhybudd,
ac ymbarotoi erbyn y byd hwnw, fel pan ddeuaf
i farw y gallaf ddywedyd, "Mi a wn i bwy
y credais."
"How loved, how valued once.avails thee not,
Of whom descended, or by whom begot;
A heap of dust alone remains of thee,
"Tis all thou art, and all the proud shall be."
Ie, y ffurf brydferthaf, er maint y dylanwad a
enillodd, sydd heddyw yn oer a dideimlad, ac ar
fyr a fydd yn ymgymysgu a'r llwch; onid oes
yma wers i'r balch a'r uchelfrydig? Cadwer fi yn
ostyngedig, a phan y byddwyf yn cael fy nhueddu
i ymddyrchafu, ystyriaf yr hyn a fyddaf cyn hir-
telpyn o ludw. Hi glywodd hithau y gloch yn
rhybuddio marwolaeth llawer eraill, yr wyf finau
yn ei chlywed yn canu ar ei hol hithau, a chyn bo