Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
17
hir, fe glyw rhyw un fy mod inau wedi myn'd; ac
fe allai y bydd rhyw gyfaill yn colli deigryn o serch,
ond ni fyddaf fi yn gwybod oddiwrth hyny; pa le
y bydd fy ysbryd, fydd y gofyniad pwysfawr. O!
am fod yn barod i gyfarfod â Duw.
PEN. IV.
EI PHROFIAD CREFYDDOL, &C.
"Heb fod yn wrandawr anngbofus."-IAGO.
YN y dyddiau hyn, pan y mae pregethu yr efengyl
wedi dyfod yn beth mor gyffredin, a moddion ereill
i enill gwybodaeth wedi ychwanegu mor fawr, y mae
perygl dírfawr rhag y bydd yr ymarferiad a'r rhai
hyn yn cymeryd lle crediniaeth ffyddiog yn Nghrist,
a phrofiad personol o ddylanwad yr efengyl ar y
meddwl a'r galon. Nid oedd dim yn fwy pwysig
ar feddwl Mrs. Edmunds, pan yn ieuanc, na'r
angenrheidrwydd am grefydd bersonol, a byddai
gwrandaw yr efengyl yn ei harwain yn barhaus i
hunan-ymholiad mewn perthynas i'w chyflwr, a'r
effeithiau oedd yn canlyn yr ymarferiad a moddion
gras. Pe byddai hyn yn dyfod yn fwy cyffredinol
yn mhlith ieuenctyd Cymru, yn enwedig y rhai
sydd yn enwi enw Crist," byddai adnewyddiad
buan ar yr eglwysi, deuai y gwirioneddau a wran-
dawid yn destynau gweddi at Dduw, yr hon a gai
wrandawiad sicr.
Mai 24. Wedi cael y fath wledd a chlywed
cynifer o'th weision, mor lleied o adeiladaeth a
dderbyniais! Yr oeddwn yn eu gwrando gyda
hyfrydwch mawr, ond O! mor ychydig wyf wedi
ddal; nid cynt yr wyf wedi gadael dy dy nad wyf