Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

18
COFIANT
wedi anghofio y cwbl a glywais, ac y mae fy
meddwl yn cael ei lenwi f'r byd a'i drafferthion.
O! na bai fy enaid "fel un wedi ei ddiddyfnu."
Yr wyf yn ofni mai nid crefydd y galon sydd
genyf, onide, nis gallwn feddwl cymaint am y byd.
Bydded i mi gofio
"Fod y byd yn myned heibio,
A'i bleserau o bob rhyw;
Tan y nef ni thal ei garu
Wrthddrych arall ond fy Nuw."
Mai 26.
Clywais gan Miss Ll., o hanes mynyd-
au olaf yr anwyl Miss S. Gallwn ddywedyd,
"ei diwedd oedd tangnefedd." Cefais hefyd rai
syniadau o'i heiddo, sydd erbyn hyn yn fwy
gwerthfawr i'w pherthynasau a'i chyfeillion nag
erioed, ac yn enwedig i'w rhieni; oherwydd dang
osant lawer o linellau ei chymeriad, y rhai ni welid
tra y bu byw. Yr wyf finau hefyd yn meddwl am
yr hyfrydwch a deimlir gan fy rhieni inau wrth
ddarllen y geiriau hyn; pan y byddaf fi yn malurio
yn y llwch, hwy a welant fod gan eu merch rai
meddyliau beblaw yn nghylch y byd, er bod y
rhai hyn yn rhy luosog; ond gobeithiaf fy mod yn
gwir dristâu wrth weled cymaint o'm bamser yn
cael ei dreulio i ddilyn y cysgod ofer o bleser
sydd o hyd yn diane o'm gafael.

Mai 30.
Cefais y fraint ddoe o esgyn i dŷ yr
Arglwydd, i wrando ei air yn cael ei gyhoeddi trwy
enau ei weision. Y testyn oedd, "Caru y mae efe
y bobl dy holl saint ydynt yn dy law," &c. O! y
fath ymostyngiad ynddo Ef, yr hwn sydd goruwch
pawb, Jehofah ein Creawdwr, sylwi ar waith ei
ddwylaw. 0 na fedrwn ei garu yn ol uwchlaw
pawb a phob peth, a chysegru fy holl fywyd iddo;
hyny, mi feddyliwn, ydyw ewyllys fy nghalon, ond
y mae fy meddyliau mor dueddol i ddrwg, fel pan
ewyllysiwyf wneuthur da ni fedraf arno. Cynorth-