Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
19
wya fi, O Dduw! dal fi 'th law hollalluog, yna
byddaf ddyogel oddiwrth holl beryglon y byd.
Dysg fi i roi fy serch ar bethau sydd uchod, ac i
fod fel dyeithrddyn a phererin yn y byd.
Mehefin 1. Goleuni, bywyd, a dedwyddwch
ydyw Duw. Pa nesaf y byddom ato, mwyaf a
welwn o ddrwg a llygredigaeth ein calonau ein
hunain. Yn ei oleuni Ef y canfyddwn ein dallineb
a'n tywyllwch ein hunain. Efe yw ffynon bywyd
yn dymhorol ac yn ysbrydol. Efe a gyfranodd
fywyd naturiol i ni; 0! am dderbyn y bywyd
ysbrydol hwnw, heb yr hwn y mae yn anmhosibl
i mi fod yn ddedwydd. Pa agosaf fyddaf ato Ef,
mwyaf o ddedwyddwch a gaf ei brofi. Yr wyf yn
gweled beunydd nad oes gwir ddedwyddwch i'w
fwynhau mewn un man arall. Y mae yr ystyr-
aethau hyn yn fy arwain yn naturiol i weddïo,
"O Arglwydd, tyn fi yn nes atat; bydded i mi
geisio dedwyddwch parhaus ynot ti, ac ynot ti yn
unig."
Mehefin 8. Clywais bregeth neithiwr ar y fraint
o fod yn blentyn i Dduw, ac ar gariad Duw yn
mabwysiadu pechaduriaid i fod yn blant iddo ei
hun. Y testyn oedd, "Gwelwch, pa fath gariad a
roddes y Tad arnom fel y'n gelwid yn feibion i
Dduw." Os wyf yn un o blant Duw, mi ddylwn, o
angenrheidrwydd, ei garu; ond yr wyf yn ofni fy
mod yn ddiffygiol iawn yn hyn. "O cherwch fi,"
medd Crist, "cedwch fy ngorchymynion." 0! am
gymorth i'w gwrando a'u gwneuthur hwynt.
ydym yn caru Duw, yr ydym hefyd yn caru y
brodyr sydd yn dwyn ei ddelw; nis gallaf bender-
fynu y pwnc, 'does genyf ond gweddio, 0 Ar
glwydd os nad wyf yn un o honynt hyd yma, na
hd fi yn eiddo Satan, ond mabwysiada fi yn un o'th
deulu dy hun.
Os
Mehefin 10. Darllenais bregeth ragorol ar y
testyn, "Syniad yr ysbryd, bywyd a thangnefedd