Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
21
anfeidrol ddoethineb yn angenrheidiol i mi gael fy
nghystuddio, nac atal hyny oddiwrthyf'; canys y
mae croesau yn dy law di yn fendithion o'r mwyaf.
Y cwbl a geisiaf ydyw, cael bod yn dy law; na
chymer y breichiau tragywyddol oddi tan fy
enaid, ond
"Brenin breninoedd, cadw fi
O dan d' adenydd dwyfol di."
Mehefin 15. Bûm yn y cyfarfod eglwysig
neithiwr, a chefais y mwynhad o weled un afradlon
yn dychwelyd. Pa olwg a ddichon fod mor hyfryd
i bobl Dduw a gweled hen wrthgiliwr yn cydnabod
ei grwydriadau, ac yn gweled mai gwell yw cadw
drws yn nhy Dduw na thrigo yn mhebyll annuwiol-
deb; ïe, y mae mwy o lawenydd ger bron angelion
Duwam un pechadur a edifarhao, nag am namyn un
pum' ugain o'r rhai cyfiawn, y rirai nid rhaid iddynt
wrth edifeirwch. O planer ef yn nhŷ yr Arglwydd
mor sier, fel na ddichon i holl ystormydd na thy.
mhestloedd y byd ei ddiwreiddio. Mor hyfryd
ydyw meddwl fod angelion Duw yn ein plith;
canys "i'r hyn bethau y chwenychant edrych."
Na âd i mi, O Arglwydd, fyned allan o'th dy byth,
na chlwyfo mynwes dy bobl; ond bod yn agos atat,
a byw yn dy gymdeithas, ac yna mi fyddaf yn
ddyogel.
Mehefin 20. Nis gwn pa beth yw teimlad y
rhai sydd yn amddifad o foddion gras, ond o'm
rhan I, os collaf hwynt am un neu ddwy o nos-
weithiau o'r wythnos, yr wyf yn sicr o deimlo yn
fwy anystyriol a dasarol fy ysbryd, ac yn fwy
diofal yn nghylch fy nyledswyddau; er, yr wyf yn
cyfaddef, fy mod wedi llesâu rhy ychydig trwy
foddion gras, ond yr wyf yn teimlo pleser mawr
ynddynt, a hyderaf, ryw radd o adeiladaeth; pe
bâi y ffrwyth yn gyfatebol, byddwn yn fwy sanct-