Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

24
COFIANT
Bydded i mi fod yn ddyfal mewn gweddi, ac
mewn darllen a myfyrio, fel y byddo fy nghalon
yn cael ei dyrchafu i'r nef, yn mhell goruwch pob
daearol serch. Hyn yw fy holl ddeisyfiad; 0
Arglwydd, clyw fi, er mwyn dy enw. Amen.
Gorph. 8. Wele Gymanfa arall wedi myned
heibio am byth; llawer o'r rhai a welsant yr un o'r
blaen, ni chawsant weled hon, a diau y bydd llawer
a welent hon wedi myned ar hyd ffordd na ddych-
welant cyn y daw Cymanfa eto, a hwyrach myfi yn
eu plith. Ond y pwnc ydyw, a ydwyf wedi gwneyd
yn fawr o honi? A ydwyf wedi derbyn bendith
ynddi? A wyf yn barod i gyfarfod â Duw? A yw
gras yn teyrnasu [yn fy nghalon I] trwy gyfiawn-
der i fywyd tragywyddol?" A oes modd genyf ei
gyfarfod Ef "pan y daw gyda'r cymylau, ac y caiff
pob llygad ei weled." Yr Arglwydd sydd yn
teyrnasu."
A ydyw
A yw yn teyrnasu ynof fi?
fy nghalon i yn ei groesawi fel fy Mrenin? A ydyw
wedi gwneuthur heddwch i mi trwy waed ei groes
ef? A ydwyf yn ymroddi i "gofio fy Nghreawdwr
yn nyddiau fy ieuenctyd?" Pan "ymddangoso
Crist ein bywyd ni," a gaf fi ymddangos gydag ef
mewn gogoniant? A fyddaf fi yn un o'r cymdeith-
ion gogoneddus a ddeuant gydag ef? Ac yn ddi-
weddaf, a wyf yn gwrando ar ei leferydd ef? Y mae
yn llefaru wrthyf; nid yw yr holl bregethau a
glywais ond llais yr Arglwydd ataf. "Heddyw os
gwrandewch ar ei leferydd ef." O amgymorth i wran-
do ar ei nefol lais, i fod yn barod erbyn ei ddyfodiad.
Arglwydd, dyro i mi ffydd i gredu yn Mab Duw, cyn
fy myned ac na byddwyf mwy. Argraffed Ysbryd
Duw y gwirioneddau hyn ar fy meddwl, fel na
byddwyf yn eu hannghofio. Cefais bleser dirfawr
wrth eu gwrando, a gobeithiaf beth llesâd er fy
neffro o'm cysgadrwydd; ond 0! mor fuan y byddaf
yn eu hannghofio. Dyro i mi ffydd, O Arglwydd,
i'th adnabod, ac i gredu ynot ti, canys hyn yw y