Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EIMUNDS.
25
bywyd tragywyddol, a dim llai na hyn ni thycia i
mi.
Rhoddes Duw i mi bob bendith dymhorol; cefais
fy mreintio & rhieni a chyfeillion crefyddol; a dy-
munaf fod yn ddiolchgar iddo ef am danynt; y mae
hyn yn fendith y mae llawer yn amddifad o honi,
ac nid dim ynof fi oedd yn haeddu hyn. Ond
Arglwydd, nid yw hyn ychwaith yn ddigon; dyro
i mi y bywyd ysbrydol a thragywyddol; rho i mi
fel Enoch gynt, gael rhodio gyda Duw, hyn sydd
yn eisiau arnaf. Caniatâ hyny er mwyn dy anwyl
Fab. Amen.
Gorph. 11. "Arglwydd, dysg i ni weddio,"
ydoedd gweddi y dysgyblion gynt. Gymaint o
eisieu yr un peth sydd arnaffi. Y mae yn hawdd
llefaru geiriau ger bron Duw, ond peth arall hollol
ydyw gweddio o'r galon. Mor anhawdd ydyw cael
y meddwl yn rhydd oddiwrth amgylchiadau daearol,
ac heb hyn y mae yn anmhosibl gweddio yn iawn.
Y mae y llinellau canlynol yn ddesgrifiad rhy gywir
o'm gweddiau yn fynych:
"My words fly up, my thoughts remain below;
Words without thoughts, can ne'er to heaven go."
Y mae eisieu calon newydd arnaf; calon i ymdrechu
& Duw mewn gweddi, fel Hannah, i dywallt y galon
ger bron yr Arglwydd. Dyna y gweddïau sydd yn
cael gwrandawiad; nid ydyw Duw yn atal dim
daioni oddiwrth y rhai hyny sydd yn galw arno o'r
galon; yr wyf yn ofni nad ydwyf yn ddigon mynych
gyda byn, canys y mae efe o hyd yn agos at y rhai
oll a alwant arno.
Gorph. 18. Yr wyf yn meddwl yn fynych am
y gair hwnw, "Gwnewch bob peth er gogoniant i
Dduw." Mor bell yn ol ydwyf gyda hyn, ac eto y
mae pob peth fyddo yn fyr o hyny yn eilun-addol-
Balchder a hunanoldeb
iaeth yn nghyfrif Duw.