Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

20
COFIANT
sydd yn llanw fy nghalon, nis gallaf wneuthur dim
nad ydynt hwy yn uchaf yn fy meddwl.
Pan
fyddwyf yn ceisio darllen dy air, yr wyf yn teimlo
cysgadrwydd mawr ar fy ysbryd; O! na fywhait fi
drachefn; yr wyf yn farw mewn camweddau a
phechodau, ac nis gallaf wneuthur dim o honof fy
hun. O deued dy ysbryd sanctaidd i gymeryd
meddiant o'm calon, a'i chadw fel teml i ti dy hun.
O! fel y mae wedi ei halogi gan bob meddwl ansanct-
aidd; ond y mae yn gysur genyf feddwl y gelli di
ei glanhau. Yr wyt yn gofyn, "Fy mab, moes i mi
dy galon." Cymer hi, O Arglwydd, yr wyf yn
atolwg arnat.
Gorph. 23. Y mae Duw wedi dyrchafu ei Fab
yn "dywysog ac yn iachawdwr,"-yn dywysog i
lywodraethu yn fy nghalon, ac yn iachawdwr i'm
gwaredu o dan lywodraeth fy mhechodau,-"i roddi
edifeirwch i Israel, a maddeuant pechodau." Y mae
yn rhoddi y chwerw o flaen y melys, yna ceir y
melys yn felusach. Ond y mae mwy o felusder
yn nghwpan edifeirweh nag yn yr holl bleserau a
ddichon y byd ei gyfranu.
Gorph. 27,
"Iesu, a'i gwir fod marwol ddyn
A ch'wilydd arddel d'enw cun?"
A ydyw yn bosibl fod creadur fel dyn yn cywilyddio
arddel ei Grewr, yr hwn a roddes fod iddo, ac sydd
yn rhoddi iddo fywyd ac anadl a phob peth oll;
ac a allai mewn moment ei daflu i uffern? Eto, y
mae dyn wedi myned mor anniolchgar ag i ddir-
mygu ei Greawdwr, hyd yn nod pan y cynygia
iddo fywyd tragywyddol; y mae yn rhy falch i
dderbyn hyny yn rhodd oddiwrtho, ac y mae yn
tybied y gall efe ei hun wneuthur rhywbeth tuag
at ei bwrcasu. Yr wyf yn ofni fy mod yn ymddy-
bynu yn ormodol ar fy nghyfiawnder fy hun, er nad