Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
29
na fedrwn ddyfod adref i feddwl am fater fy enaid
anfarwol. Rhaid i mi yn fuan ganu yn iach i
bob peth dan haul. Nid wyf yn gweled ond rhy
ychydig o'm cyflwr wrth natur; O Arglwydd!
agor fy llygaid, fel y gwelwyf fy sefyllfa golledig
ac andwyol, yna byddaf yn fwy parod i redeg
atat am noddfa wrth ganfod y perygl yr wyf
ynddo. Y mae dynion yn marw yn bur ddisy-
mwth y dyddiau hyn. Pe byddai i mi gael fy
nhori ymaith, beth fyddai fy sefyllfa? A ydwyf
yn barod? Os wyf, bydd y cyfnewidiad yn i'w
ddymuno; canys yna
"Ni fyddai 'r bedd ond teg orphwysfa i
Y sawl gadd brofi cariad Crist a'i hedd;
Fe geidw eu llwch, cànt wel'd ei wyneb ou,
A chodi i'w drag'wyddol lys, o'r bedd."
Yr wyf yn meddwl y gallaf ddywedyd fy mod yn
chwenych bod yn un o'th blant. Yr wyt wedi
dywedyd, "Pwy bynag
"Pwy bynag a ddêl ataf fi, nis bwriaf
ef allan ddim." Dyro gymorth i mi ddyfod atat,
fel yr ydwyf. O! tydi yr hwn wyt yn hoff genyt
drugaredd, cymer drugaredd arnaf, un o'r distadlaf
o'th greaduriaid.
Hydref 6. Y mae yn rhy wir fod holl "fwriad
meddylfryd calon dyn yn unig yn ddrygionus bob
amser." Y mae yn angenrheidiol newid y galon
cyn y bydd cyfnewidiad yn y myfyrdodau. Dyma
ddrych, gan hyny, yn yr hwn y gallaf farnu am
danaf fy hun.
Pa le y mae fy myfyrdodau? A
ydyw fy serchiadau ar bethau y ddaear? Os felly,
yr wyf hyd yma yn annuwiol, yn meddiant Satan,
yn blentyn digofaint; canys pa le bynag y byddo ein
trysor, yno y bydd ein calon hefyd. Y mae genyf
achos í ofni yn fawr ar y pwnc. Lle bydd gwir gyf-
newidiad, fe fydd yno hefyd gyfnewidiad tymber.
Os nad ydyw crefydd wedi effeithio ar y dymher,