Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

32
COFIANT
ddiweddaf. Y mae fy nghwch bychan yn ysgafn
iawn i ymdaro à thonau geirwon a thwyllodrus y
byd, ond os byddi di gyda mi, gallaf gyda'r prydydd
ddywedyd,
"Mi wenaf ar y storm
A Christ ar fwrdd y llong."
PEN. VI.
EI PHROFIAD CREFYDDOL, &c.
(Parhad ei Dyddlyfr.)
Ion. 2, 1832. Yr wyf wedi dechreu blwyddyn
newydd, ond 'rwy'n ofni mai gyda'r hen galon;
ofnwyf nad yw fy nghalon yn uniawn gerbron Duw:
ond yr wyf eto ar dir trugaredd. O fendith an-
mhrisiadwy! Pa sawl un o'm cyd-greaduriaid, ie,
o'm cyfeillion, a symudwyd gan angeu y flwyddyn
ddiweddaf, ac eto, wele fi yn arbedol. Mawrhau a
wnelwyf hirymaros yr Anfeidrol, am beidio fy
nhori i lawr fel ffigysbren ddiffrwyth, ond fy ngad-
ael am flwyddyn arall. Fe allai mai hon fydd y
ddiweddaf o'm heinioes. "Dysger fi felly i gyfrif
fy nyddiau, fel y dygwyf fy nghalon i ddoethineb "
trwy Grist. Amen.
Chwef. 21. Y mae barnau Duw yn cerdded y
ddaear, ac eto mor ychydig sydd yn eu holrain i'w
gwir achosion. Onid ydyw yn rhy. debyg arnom
ni ag ydoedd ar y Sodomiaid gynt, a'r cenedloedd
ereill, y rhai a ddinystriodd Duw a'i farnedig-
aethau Ein gwaedd ninau a ddychafodd i'w
glustiau, ac nis gall ymatal yn hir. Y mae ei
gyfiawnder yn galw am gosbedigaeth arnom, ond
hwyrfrydig yw efe i lid, a llawn o drugaredd,-