MRS. EDMUNDS.
33
"The wheels of an avenging God,
Groan heavily along the distant road."
Nid ydyw yn hoff ganddo daro. O! am blygu
ger ei fron, ac ymostwng yn y llwch, gan geisio
ganddo droi ymaith ei lid oddiwrthym. Yr ydym
yn cydnabod, O Arglwydd, nad ydym yn haeddu
dim oddiar dy law,-ein pechodau a alwant am
ddialedd; ond er mwyn yr hwn a ddyoddefodd ar
y croesbren poenus, trugarha wrthym.
Mawrth 21. Diwrnod ympryd a gweddi. Yr
oeddym yn ymostwng o ran ein cyrff, ond y mae
lle i ofni nad ydyw ein heneidiau wedi ymostwng.
Nid ar y golwg allanol yr edrychi di, O Arglwydd;
ond yr enaid a'r ysbryd cystuddiedig, O Dduw, ni
ddirmygi.
Ebrill 22,-
"Religion! what treasures untold,
Reside in that heavenly word;
More precious than silver and gold,
And all that this world can afford."
Ie, nid oes ond crefydd yn unig yn alluog i'n cyfarwyddo trwy y byd gofidus hwn, i'n cysuro dan
ein trallodion a'n cystuddiau, ac i esmwythau gwely
y Cristion wrth farw. Pan y mae yr enaid yn
ymdrechu ar gyffiniau dau fyd, ac yn wynebu glyn
cysgod angeu, y mae crefydd yn rhoi ei llewyrch
dysglaer a nefol, ac yn gwneuthur y ffordd yn
eglur o'i flaen. Pa beth yn y byd hwn sydd
deilwng o'i gydmaru â'r fendith hon? Nid oes
dim; canys "duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a
chanddi addewid o'r bywyd sydd yr awr hon, ac
o'r hwn a fydd." Arglwydd, dyro i mi y trysor
hwn fel fy rhan, ac aed y byd fel yr elo. Os caf
Dduw yn gyfaill, ni bydd arnaf eisien dim daioni;
caf hyfrydwch na ddichon y byd ei roddi na'i
Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/55
Gwedd
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto
