Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/57

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
35
bynciau, a gweddiau dwysion am waredigaeth o
dan lywodraeth pechod, y rhai sydd yn profi agos-
rwydd ei chymdeithas â'r nefoedd, a'r cysur a
dderbyniai wrth roddi ei bryd ar y pethau sydd
uchod. Dyma guddiad cryfder y Cristion, ei allu
i dynu nerth Hollalluog o'i blaid, ac felly cael bod
yn fwy na chonewerwr ar alluoedd y tywyllwch.
PEN. VII.
PROFIADAU A MYFYRDODAU ACHLYSUROL.
"Tra yr oeddwn yn myfyrio, enynodd tan, a mi a leferais
a'm tafod."-SALMAU.
OY FATH feddyliau culion yr wyf yn letya am
Dduw! Yr wyf yn rhy barod i osod terfyn i Sanct
yr Israel; ac er darllen am ei ryfeddodau i'w bobl
gynt, yr wyf yn methu ymddiried fy hunan i'w
law oruchel.
"O anghrediniaeth mawr dy rym,
Ti roddaist i mi glwy';
Ond yn dy wyneb credu wnaf,
Fod douiau'r nef yn fwy."
Am hyny, ymddiried ynddo, O fy enaid!
Yn y cyfarfod eglwysig neithiwr yr oedd merch
ienanc yn cloffi rhwng dau feddwl, pa un a ymadawai
à gwrthddrych daearol ei serch, neu a'r grefydd
hono sydd yn ein codi uwchlaw pethau y ddaear. Yr
oedd yn fwy tebyg i Orpah nag i Ruth. Wylai,-
ond yr wyf yn ofni y dychwelai at ei hen gyfeillion;
dyma, gan hyny, wers i minau i fyfyrio arni.
Dymunwn weddio, Arglwydd, na âd i'm crefydd
byth gael ei dwyn mor isel ag i ganiatâu amhou-