Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/58

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

36
COFIANT
aeth; na âd i'm serchiadau byth gael eu darostwng
mor fawr fel ag i ddewis gwrthddrych daearol o
flaen un nefol; ond dyro i mi benderfyniad meddwl
i ymgadw rhag pob temtasiwn o'r natur yma.
Cadw fi byd y diwedd yn dy law; canys yn dy
law yn unig y byddaf ddyogel, a thywys di y rhai
sydd yn petruso; amlyga dy hun iddynt fel yn
anfeidrol ragori ar bob serch anianol; dangos iddynt
fyrdra amser ac annigonolrwydd pob peth arall
ond dy hunan i roddi iddynt gysur sylweddol.
Paham y'th ddarostyngir, fy enaid? Gobeithia
yn Nuw, yr Hwn yw nerth fy nghalon, ac sydd
iachawdwriaeth i mi. Paham y digalonaf yn wyneb
tywyllwch neu ambeuon sydd yn aros ar y dyfodol;
os wyf wedi ymddiried fy achos tragywyddol i
ddwylaw Gwaredwr hollalluog, oni allaf gymeryd
ei air am bethau tymhorol? Os wyf wedi gor-
chymyn fy hun i'w ddwylaw am amser a thragy-
wyddoldeb, i ba beth y petrusaf yn nghylch y
dyfodol? Na; mi fwriaf fy maich ar yr Argl-
wydd, yr hwn sydd yn alluog i'w gynal, ac ym-
dawelaf i'w ewyllys oruchel, gan adael iddo ddethol
fy etifeddiaeth i mi. Bydded i mi ddylyn lle
bynag y byddo efe yn arwain, a pheidio ymresymu,
ond dysgu ufuddhau.
"Nith roddaf di i fyny, ac ni'th Inyr adawaf
chwaith." Pa eiriau cryfach a ddewisai cyfaill
anwyl i ddangos ei anwyldeb a'i serch er mwyn
enill ein hymddiried, na'r rhai a roddir yma, y rhai
sydd wedi eu llefaru gan y Jehofah mawr ei hun;
ac eto y mae y Cristion, weithiau, mor hollol
ymddifad o ffydd, ag i annghofio, ni feiddiwn
ddywedyd i annghredu, y geiriau cysurlawn byn.
Arglwydd, na ad i mi amheu dy ffyddlondeb un
amser!
Nid wyf erioed yn cofio treulio dydd genedigol,