Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/59

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
37
hyd yn nod yn mlynyddoedd mebyd, heb deimlad
difrifol a thrymaidd; y syniad o'm cyfrifoldeb i
Dduw am yr amser a roddwyd i mi ar y ddaear
sydd wedi ei blethu a'm hadgofion boreuaf; ond
erbyn heddyw, y mae yn dyfod gyda grym ychwan-
egol. Bydded i mi deimlo yr alwad yn ddwys,
canys llais cydwybod yn ddiau ydyw. O! am
brynu yr amser, canys y dyddiau sydd ddrwg."
Y mae yn naturiol i edrych yn ol, a galw i gof yr
amlygiadau hyny o ddaioni rhagluniaeth tuag ataf
yn hytrach nag ereill. Paham y caniateir i mi
weled y dydd hwn drachefn, pan y mae llawer oedd
ieuangach na mi wedi eu galw i fyd yr ysbryd-
oedd! Bydded fy mywyd yn gysegredig i'w
ogoniant Ef, yr hwn yn ei drugaredd a gadwodd
un mor anhaeddianol.

"O! i'th ras y fath ddyledwr
Ydwyf, beunydd trwy fy oes;
Boed f'th ras fel cadwyn euraidd,
Fyth fy rhwymo wrth y groes."

Mewn diwrnod ystormus a thymhestlog yr ydym
yn teimlo cysur a gwerth cysgod; felly, pan yn cael
ein taflu ar för garw adfyd, y mae dyddanwch yr
efengyl yn dyfod gyda mwy o felysder. Ein doeth-
ineb penaf fyddai ystorio yn y côf y cyfarwyddiadau
nefol a gadwai ein meddyliau yn amser profedig-
aeth, ac a'u cyfarwyddent at ffynon yr hapusrwydd
hwnw na leiheir hyd yn nod gan.donau olaf mar-
wolaeth, ond a'n cluda yn ddyogel i'r wlad lle y
cawn fod yn dragywydd, fel y dywed y prydydd,

"Basking in the Deity-
Bathing for ever in the source of bliss."

Anwadal a chyfnewidiol, fel y ffurfafen ar ddiwrnod
yn y gwanwyn, wyf yn cael fy nheimladau gyda
golwg ar bethau ysbrydol; un foment bydd llygeidyn