Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

40
COFIANT
yn methu. Megys Ephraim, y mae dyeithriaid
wedi bwyta ein cryfder, ac ni wybuom. O! gam-
gymeriad peryglus; y mae penwyni wedi ymdaenu
drosom mor llwyr fel y mae yn amlwg i bawb ereill,
ond yr ydym ni heb ei ganfod ein hunain. Argl-
wydd, gwared fi yn raslawa rhag y fath gyflwr
ofnadwy!

Fe welir yn y sylwadau blaenorol mor bwysig yr
oedd achos ei henaid yn gwasgu ar ei meddwl, ac
er y dichon ei bod yn rhy dueddol i edrych i mewn
iddi ei hun am ddefnydd cysur, ac o ganlyniad yn
cael ei siomi; eto yr oedd hyn yn rhyw arweiniad
iddi o'i gwlad ei hunan at y cyflawnder sydd i'w
gael ynddo Ef, yr hwn a "aeth yn ddiwedd i'r
ddeddf er cyfiawnder i bob un a'r sydd yn credu."
Y mae diofalwch ac anystyriaeth yn nghylch
crefydd yn llawer mwy peryglus na "rhodio yn
alarus trwy orthrymder y gelyn;" ond byddai
cydnabyddiaeth agosach à gwirioneddau crefydd
yn symud y naill a'r llall, a pherffaith gariad yn
bwrw allan ofn.