Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/63

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MRS. EDMUNDS.
41
YR AIL RAN.
SYLWADAU ARWEINIOL
Gan y Parch. JOHN PHILLIPS, a'r Parch.
HUGH ROBERTS, Bangor.
Mr. PHILLIPS a ysgrifena fel y canlyn:
marwol hi.
"Yr oedd hynodrwydd yn Mrs. Edmunds, gwrthddrych y
cofiant hwn, a'r hynodrwydd hwnw yn un rhinweddol; ac nid
uniawn a fuasai ei gladdu ef yn yr un fynwent a'i gweddillion
Na; yn hytrach, teilwng yw ei gadw mewn
coffadwriaeth, a'i gyflwyno hefyd i'r cyhoedd. Cefais gyfleus-
dra i fod yn gydnabyddus à hi am tua phedair blynedd ar
hugain; yn gyntaf oll, pan yn eneth ieuanc yn nhŷ ei thad
yn nhref Caerfyrddin; ac wedi hyny, pan yn gwasanaethu ei
chenedlaeth fel athrawes; a gallaf yn rhwydd dystiolaethu am
dani ei bod yn llawn gweithgarwch-awyddus i weithredoedd da
ac yn dalentog i gyflawni ei dyledswyddau. Yr oedd ganddi
yn wastadol amcan am fod yn ddefnyddiol yn y byd hwn, ac
ymbarotoi erbyn y byd a ddaw. Fel athrawes, priod, a mam,
hi a gafodd y fraint o ymddwyn yn y fath fodd, fel y gellir heb
betrusder ei chyflwyno i sylw, fel un deilwng o efelychiad yn
y cyfryw sefyllfaoedd; ac y mae ei phriod a'i brawd wedi
llwyddo i osod ei hanes ger bron mewn modd syml a dirodres,
fel nad oes roodd i neb ystyriol ddarllen y cofiant heb dderbyn
llesiant oddiwrtho. Dymunaf iddo gylchrediad helaeth-i law
y llaws yr elo, ac ar ei ddarlleniad y byddo bendith y
Arglwydd."

A ganlyn ydyw nodiadau Mr. ROBERTS:

"Mae yn ddiau y bydd yn hyfrydwch gan y rhai oedd yn
adnabyddus a Mrs. Edmunda, i weled ei chofiant yn ymddan-
gos, a'i fod wedi ei ysgrifenu gan bersonau oeddent yn ddigon
adnabyddus o honi i wneyd eyfiawnder âg ef, sef gan ei brawd
a'i phriod, cymeriad moesol a chrefyddol y rhai sydd yu sior-
wydd digonol am ei gywirdeb. Y mae yn hawdd, hefyd, i'r