Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

42
COFIANT
darllenydd ddeall wrth ei ddarllen, mai nid oddiar deimladau
perthynasol y cymerwyd y gorchwyl o'i ysgrifenu mewn llaw;
ond oherwydd fod gwir hynodrwydd a theilyngdod yn perthyn
iddi, nad ydynt i'w cael ond yn anfynych, fe allui, yn mysg
gwir Gristionogion. Y mae yn anhawdd i neb ddurllen y
bywgraffiad hwn yn ystyriol, heb deimlo argyhoeddiad o
werth a phwysigrwydd gwir grefydd. Yn wir, y mae tuedd
uniongyrchol yn yr hanes i fod yn adeiladol a bendithiol, ac
i ddwyn dylanwad iachusol ar feddyliau y rhai a'i darlleno; a
gellir edrych ar gofiant o'r natur yma yn brawf ychwanegol o
wirionedd Cristionogaeth.

"Nid unrhyw swyddog gwladol nao eglwysig yw gwrth-
ddrych y cofnodau byn, ond gwraig rinweddol a mam dyner-
un oedd wedi hynodi ei hunan trwy ei llafur a'i diwydrwydd
mewn gwybodaeth, dysg, duwioldeb, a defnyddioldeb-un
oedd wedi bod yn addurn i'w rhyw, ac yn enwogrwydd i'w
gwlad a'i chenedl. Nid yw o un dyben i mi olrhain hanes
Mrs. Edmunds, na phortreiadu ei nodweddiad ger bron y
darllenydd, er fy mod yn teimlo parodrwydd i hyny oddiar fy
adnabyddiaeth o honi er ys rhai blynyddau bellach; ond fe'm
tueddir i grybwyll mai anhawdd fyddai cael un yn meddu ar
y fath gymwysder fel athrawes mewn ysgolion dyddiol a
Sabbothol. Yr oedd ei gwybodaeth gyffredinol ac ysgrythyrol
yn eang iawn, yr oedd yn gyflawn o synwyr ac ysbryd barn,
yn llawn teimlad a bywiogrwydd, fel yr oedd yn gallu dysgu
mewn addfwynder a llywodraethu mewn doethineb. Yr oedd
yn caru y plant, ac yn bryderus yn eu cylob, ac, yn ddiamheu,
yn gweddio llawer drostynt; a byddai y plant yn ei charu
hithau yn fawr, ac yn teimlo yn dra dedwydd tan ei llywodraeth
a'i haddysg. Bu ei dyfodiad i'r ddinas bon yn fendith ac yn lles
nas gwyddis pa faint. Cafodd yr eglwys a'r Ysgol Sabbothol
golled fawr ar ei hol. Yr oedd yn aelod hardd, ffyddlon, a
defnyddiol. Nid talu teyrnged yn unig a wnai hi i grefydd,
ac ar amserau bod yn rhydd oddiwrth ei hawdurdod, ond yr
oedd wedi derbyn o'i hysbryd; yr oedd tan ei dylanwad, ac yn
ei chanmol ei hun wrth bob cydwybod ar a'i hadwaenai, trwy
ei diwydrwydd a'i ffyddlondeb gyda phob moddion o ras, ac yn
y cyflawniad o holl ddyledswyddau y fuchedd Gristionogol.
Pe byddai i athrawesun yr Ysgol Sabbathol, yn gyffredin,
gyfranogi o'i hysbryd, er i'w cymwysderan fod yn llai na'r
eiddo Mrs. Edmunds, byddai adfywiad baan ar y rhan yma o
waith yr Arglwydd.
"Yr oedd bi hefyd yn haelionus tuag at achosion crefydd,
ac yn serchog tuag at weision yr Iesu, yn gwneuthur cyfrif o
honynt mewn carind er mwyn eu gwaith. Nid oedd, yohwaith,
yn annghofio y tlodion, ond teimlai barodrwydd a phleser
mawr i estyn cymorth i'r rhai hyn mewn cyfyngder. Ond er