Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

MBS. EDMUNDS.
43
meddu y rhagoriaethau hyny, a llawer o'u cyffelyb, cymerwyd
hi ymaith yn nghanol ei dyddiau a'i defnyddioldeb.
Os
gofynir, i ba beth y bu y golled hon? rhaid ateb, nas gwyddom
ni yr awr hon-nid amlygwyd i ni eto-rhaid myned yn fud a
cbydnabod mai ewyllys Duw oedd byn. Er ei bod wedi ym-
adael â'r byd, nid ydyw wedi ymadael i'r eglwya-un yw hi
yn y nef ao ar y ddaear.
"Yr wyf yn dra byderus y bydd i'r eofiant hwn gael ei
werthfawrogi gan laweroedd, ac y cynyrchir daioni mawr
trwyddo."
PEN. I.
GWRTHDDRYCH Y COFIANT.
Y MAE Cwlwm agos rhwng y meddwl a'r corff, a
chryn lawer o ddylanwad gan y naill ar y llall; eto
yn aml, fel yn ngwrthddrych y cofiant hwn, ceir
yr annhebygrwydd mwyaf rhyngddynt. Yr oedd
ei hedrychiud hi braidd yn neillduedig ac oeraidd,
ond yr oedd ei meddwl yn llawn o serch a chy-
mwynasgarwch; y corff' yn naturiol o wneuthuriad
gwan ac eiddil, ond y meddwl yn gryf a gwrol.
Bu llawer person yn ymddangos yn harddach o ran
y dyn oddiallan, ond yr oedd y dyn oddifewn yn
brydferth a threfaus iawn, ac wedi ei ddiwyllio i
radd uchel. Y mae lluaws fel hithau wedi ysgrif-
enu llawer o ffrwyth eu myfyrdodau, a dyfynu
yn helaeth o brydferthion myfyrdodau ereill, ond
ychydig mewn cydmariaeth sydd wedi bod yn
berchen digon o drefnusrwydd meddyliol i gadw y
cynyrchion hyny trwy ystod ugain mlynedd o
drafferthion bywyd; ond wele hwynt yma yn llu
mawr, wedi eu dethol yn drefnus a'u cylymu yn
nghyd; ac ar ol iddi wueyd detholiad manwlo
honynt, a llosgi canoedd o'r rhai na ddymunai i
ereill eu gweled ar ei hol-gadawodd sypynau