Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

44
COFIANT
mawrion o ysgrifau gwahanedig, yn nghyda deu-
ddeg o gyfrolau lled fawr, chwech wedi eu
bysgrifenu yn fanwl a'i llaw ei hun, a'r gweddill
wedi eu gwneyd i fyny o ddarnau wedi eu tori
allan o bapyrau newyddion a magazines: y cwbl
yn nghyd a wnaent lyfr, nid llawer, os dim, yn llai
na'r Beibl. Gellir nodi fod llawer o'r detholion o'r
ysgrifau hyn yn wir werthfawr, ac nid oes dim o
honynt yn sarhad ar farn a chwaeth y detholydd.
Esiampl arall o drefnusrwydd ei meddwl, a welir
yn ei gwaith yn cadw cofnodau. dyddiol am bob
peth hynod a gymerai le yn ystod cynifer o flyn-
yddoedd. Rhoddwn yma fel enghraifft ychydig
o'i sylwadau yn nechreu ei dyddlyfr am 1847, lle
y dechreuwa gofnodi ei hanes.
"Blwyddyn newydd! Gynifer o feddyliau a theimladau
sydd yn cael eu cyffroi wrth yr ystyriaeth-I ba le yr aeth yr
hen flwyddyn: a pha gyfrif a fedrwn roddi o honi? Llawer
yw y cyfnewidiadau a ddygodd: a ydym ni yn well o honynt?
Amly bendithion a estynodd: a ydym ni wedi bod yn ddiolch.
gar am danynt? Ah! y mae erbyn hyn yn hwyr i ddim
ond edifeirwch. Gadewch i ni benderfynu treulio yr un bre-
senol yn well. Gwnawn dda i bawb.' Gan brynu yr amser.
Mor fanteisiol ac angenrheidiol yw i ni feddu oymaint a hyny
o fywyd yn ein crefydd, ag i fedru eymeryd addysg oddiwrth
y cyfnewidiadau a'r profedigaethau a'n cyferfydd, ag a fyddo
yn tueddu i fywhau a chryfhau y dya newydd."
Enghraifft arall o drefnusrwydd ei meddwl ag
sydd yn werth hefyd i'w choffhau, ydyw ei manyl-
rwydd yn cadw cyfrif o dderbyniadau a thraul y
teulu. Ni byddai diffyg côf, nac unrhyw ddam-
wain arall, yn achosi yr esgeulusdod lleiaf yn ei
chyfrifon, am yr wyth mlynedd y bu yn cadw ty; ac
ni bu ei hafiechyd trwm, na'i hanallu i ddyfod o'i
hystafell wely am fisoedd yn achos i fod un bwlch
yn y cyfrif teuluaidd; ac er ei bod yn wybyddus
am rai wythnosau ei bod i roddi y tabernacl hwn
heibio yn dra buan, eto, ni ddyrysodd yn y gor-