Tudalen:Yr athrawes o ddifrif.pdf/70

Oddi ar Wicidestun
Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

48
COFIANT
canlynol o'i heiddo i ddau o'i chyfeillion ar ddydd
en priodas, mewn ffurf o englyn, wedi ei ysgrifenu
yn ei dyddlyfr, (Ion. 29, 1847):
Gwened y nef ar y ddeuddyn,-a'u hundeb
Fo'n byfryd a diflin;
Hir oes heb gur na chroes hin,
A'r nefoedd yn rhan gwedi'n.
Pe esgéulusem grybwyll am gywirdeb ei meddwl,
byddem wedi gadael allan un o brif linellau ei
chymeriad. Gallwn fentro dyweyd nad oedd ynddi
dwyll na dichell-teimlai tuag at bawb yn ol y
fará a fyddai wedi ffurfio am danynt, ac ymddygai
tuag at bawb yn ol ei theimlad tuag atynt ni
fedrai ragrithio, ac nis amcanai wneyd hyny; ond
i'r ochr gyferbyniol, byddai yn ffyddlon i bawb,
ac yn fwy felly yn eu habsenoldeb nag yn eu
presenoldeb.
Yr oedd, hefyd, yn un o deimladau tyner iawn,
ac o gyd-ymdeimlad cryf à phawb mewn unrhyw
gyfyngder. Byddai, yn ol ei gallu, yn rhoddi yn
helaeth i'r tlodion; a chlywais hi yn crybwyll lawer
gwaith, nad oedd hyny yn glod yn y byd iddi hi,
ei bod yn ei wneuthur yn benaf o hunan-ymddi-
ffyniad, "Canys yr unig ffordd," meddai, "y medraf
esmwythau fy nheimladau ar ol gwrando eu cwyn-
ion, a gweled eu trueni, ydyw trwy estyn ryw
gymaint, fel na chaiff fy rhan I fod yn ol tuag at
weinyddu ymwared iddynt"-"Gwell genyf roddi
i ddeg o'r rhai sydd heb fod mewn gwir angen, na
throi un i ffordd yn waglaw, sydd mewn eisieu; pe
bawn yn gwrthod rhoddi i'r rhai y tybiwn eu bod
mewn eisieu, byddai fy meddwl I'mor druenus a'r
eiddynt hwythau."
Fel enghraifft arall, eto, o dynerwch ei meddwl,
a'i chydymdeimlad, rhoddwn yma lythyr a ysgrif-
enodd at ferch ieuanc, ar yr achlysur o farwolaeth
ei thad; yr hwn hefyd a ddengys mor llawn ac